Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Dyma wirionedd sydd yn rheoli bywyd cenedl yn ogystal a bywyd y person unigol. Methiant yn y diwedd fydd unrhyw gyfundrefn o addysg yn yr hon ni cheir lle i'r gwirionedd hwn. Penurth. OwJöí OWEN. "YR HWN YR OEDD EI FYNEDIAD ALLAN O'R DECHREÜÄD." UWCH cysgodion duon Amser gwelir Ffydd Yn danngo bryniau y dyfodol pell Yno'i chlir olygon yn sylldremu sydd Ar gylcharlunfa o ddatguddiad gwell Ysbrydoliaeth egyr ei hamrantau cun Dros holl gyfandir tragwyddoldeb maith, Cenfydd yno Dduw o'i fynwes fawr ei Hun Ar ei fynediad allan ar ei daith. Ffydd edrychai dros gymylau oesoedd cudd Ar bell ogoniant Duwdod yn y cnawd, Meddwl a chyfrinion tragwyddoldeb sydd Yn ddatguddiedig yn ei sanctaidd rawd Mynych cyfarfyddai Ffydd â'i Gwrthrych, pan Ddisgynnai yno'i Hunan i rodfeydd Boreu y cysgodau gynt, o'i wyneb càn Dangosai iddi ddwyfol olygfeydd. Yno lle ymegyr eigion Duw'n ddilen, Ar draeth distawrwydd tragwyddoldeb draw, Engylesau Ffydd a Phroffwydoliaeth wen A rodient gyda'u gilydd law yn llaw Mynych tra yn syllu ar ei lanw ef, Ac ymchwydd dwyfol ei gynhyrfus don, Gwelent lynges bur o lawn fwriadau'r nef Yn morio at dueddau'r ddaear hon Y boreu pan y cauwyd dorau Eden Agorwyd dorau tragwyddoldeb oll, Gollynwyd gobaith bywiol fel colomen Ar ddiluw tywyll y ddynoliaeth goll