Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ei hiachawdwriaeth hoff yng nghôl addewid Ganfyddai dros y cwymp yn dod i lawr, Anadlodd arni arogl "pren y bywyd," A theimlodd anfarwoldeb yn ei sawr. Gogoniaut Israel drwy y maith ganrifoedd, Goleuni dyffryn cysgod angeu pell, Tyr gwawr ei Berson glân dros gylch y nefoedd Ar nos ddirywiol a'i phaganiaeth bell Pan glywir trwst ei droed yn myned allan," Holl deulu'r Dwyrain gurant ddwylaw'n ynghyd, Cynhyrfir eigion dymuniadau'r pagan, Rhed llif o dduwdod drwy wythiennau'r byd Ni allai Iesu gwyn fod yn guddiedig, Diderfyn ddiluw ydoedd llanw'i serch At ddefaid ereill," oeddynt yn grwydredig Ar fryniau niwlog aml-dduwiaeth erch Ei seren gyfrin, fel cenades wylaidd, A enfyn er eu hol o'u trist rodfeydd, I'r gorlan sydd ag anfarwoldeb iraidd Yn gwlitho beunydd frasder ei phorfeydd. Haul Rheswm ar ol cyrhaedd ei uchelfan, A gafodd angladd hirfaith ganol dydd, Uwchlaw cymylau duon wybren anian Y cyfyd Huan uwch ar randir Ffydd Tarawyd huan natur â dallineb Pan gododd Haul Cyfiawnder ar y bryn, Mae angeu'n colli'i ffordd am dragwyddoldeb, Ac Yspryd myned allan mwy'n y Glyn. Caerdydd. CYNWYD THOMAS. NODIADAU LLENYDDOL A DUWINYDDOL PARHA dyddordeb Lloegr yn yr ymosodiad a wnaed yn ddiweddar ar Gristionogaeth. Y mae y Wtsleyaid wedi gwneud eu rhan yn ardderohog, er nad ydynt eto wedi gorffen hynny i'w boddlonrwydd eu hunain. Am dri o'r gloch, prydnawn Saboth, yn y Central Hall, Manobester, traddodir cyfres o ddarlithoedd, byr a phoblogaidd, gan rai o brif feistriaid eu mars dewisedig, ar wahanol agweddau Cristionogaeth; a chyhoeddir y ddarlith yr wythnos ddilynol am gemiog. Erbyn hyn fe gynnwys y gyfres bymtheg o ddarlithoedd; ac y maent i'w gweled a'u cael ar y Bcrìlwoy Boototalla o Newoastle i Gaer ac o Lerpwl i Norwich. Anhawdd, os nad amhosibl, am y pris, yw cael eu cs flawnaoh na'u cywirach.