Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. CERDDORIAETH A'I THERFYNAU. Ymffrostiai Haydn yn y ffaith fod Cerddoriaeth yn meddu iaith gyffredinol ac y mae'n wir fod ei dylanwad yn gyffelyb ar ddynion ymhobman-yr hyn a wiria ymffrost y cerddor a enwyd. Am gerdd- orddiaeth offerynnol, modd bynnag, yr ydoedd Haydn yn siarad. Gwyr pawb fod cerddoriaeth a wisgir â geiriau ydynt mewn iaith anadnabyddus i'r gwrandäwr yn colliHawer o'i dyddordeb a'i dylan- wad. Ar y llaw arall, rhaid dweyd mai iaith lled ansicr ydyw yr eiddo Cerddoriaeth Offerynnol. Y mae yn bosibl iddi, yn absenol- deb rhyw gyfarwyddid pendant­rhyw eglurhad mewn geiriau,- awgrymu neges wahanol i ddau wrandawr ar yr un pryd. Er engraifft pan y clywsom "Lohengrin," opera enwog Wagner, am y tro cyntaf, nid oedd y geiriau a genid yn ddealladwy i ni, ac yn ein byw y gallem wneud allan ystyr y cyfan, ar y pryd. Cymerer eto ddarn offerynnol diweddar-gwaith Dr. Cowen, sef "The Butter- flýs Ball," pe na wyddem oddiwrth deitl y darn beth i'w ddisgwyl, gallesid yn hawdd amgyffred mai ceisio desgrifio cymanfa'r adar ar foreu hyfryd yn y gwanwyn yr ydoedd y cyfansoddwr-neu ryw olygfa arall yn mha un yr ydoedd llawenydd diniwed yn cael llawn ryddid. Eto: ystyrier y darn byd-enwog "He was despised," o'r"Messiah," gan Handel. I'r hwn sydd yn deall y geiriau, y mae dadganiad defosiynol o'r unawd, yn enwedig gyda chyfeiliant cerddorfäol, yn gosod dioddefaint y Gwaredwr mor fyw gerbron, nes peri i'r dagrau ddod. Ond pe nad adnabyddid y gerddoriaeth hon fel y cyfryw, eithr dyweder fel Unawd i'r crwth," gyda chyfeiliant, mentrwn ddweyd mai ychydig iawn o bobl fuasent yn meddwl am gyssylltu'r darn â thestyn Y DIODDEFAINT. Byddai yr oll yn sicr o deimlo fod ynddo ddesgrifiad o deimlad angerddol a byddai'r gerddot iaeth yn lled sicr o effeithio yn ddwfn arnynt, gan beri iddynt fawr dristwch. Adnabyddir un o Symphonïau Beethoven fel yr un arwrol," a chyflwynwyd hi i Napoleon Bonaparte; ond wrth wrandaw ar chwareuad o honi-heb wybod y testyn-ni fuasid yn gwybod i ba