Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mynn y gall esbonio cyfnodau yn hanes dyn, ar gân-drwy gym- horth y Gerddorfa yn unig. Yn y fan hon y saif terfynau cerddoriaeth yn awr. Y mae i'r ddysgeidiaeth hon ei dilynwyr, ond ni wyddom a sefydlir ysgol gan y meistr diweddaraf hwn. Hyd yn hyn, nid ydym yn un o'i ddilynwyr. Dywedasom ar y dechreu nas credwn fod ysgariad cerddoriaeth oddiwrth eiriau yn ei gwneud yn ddirym; ond credwn yn sicr fod ei neges yn fwy eglur, pendant, a chyffredinol pan ei defnyddir fel gwisg i eiriau. Dichon pan y bydd gwybodaeth gerddorol yn llawer mwy cyffredinol a pherffaith nag ydyw ar hyn o bryd, y bydd Richard Strauss a'i ddilynwyr ymhlith y cyfansoddwyr, yn brif Arwyr y byd cerddorol, ond gwell gennym lynu yn awr wrth Richard Wagner: y mae ef wedi myned a ni yn ddigon pell-am un ganrif beth bynnag. Llundain. PEDR ALAW. YR AWDURDOD DERFYNOL MEWN CREFYDD. Gellir edrych ar grefydd mewn dwy wedd-fel datguddiad ac fel addoliad. Tybia crefydd gymundeb y dwyfol â dyn, ar un llaw, ac ymdrech y dyn i gydnabod y rhwymedigaeth a esyd y cymundeb hwnnw arno, ar y llaw arall. Cyn y gellir cael crefydd rhaid i Dduw ddatguddio ei hun, a rhaid i ddyn gydnabod hawl Duw i'w addoliad a'i wasanaeth. Os cydnabyddir hyn, hawdd cydnabod hefyd y gwneir lle mewn crefydd i awdurdod. Fel y mae yn addoliad, cydnebydd yr awdurdod; ac fel y mae'n ddatguddiad, cymer ef yn ganiataol. Wrth addoli, plyga dyn ei ben i'r awdurdod sydd wedi datguddio ei hunan iddo; ac wrth gredu'r datguddiad o'r Duw a addola, cydnebydd ei anallu ei hun i adnabod Duw, ac awdurdod y datguddiad a roddir iddo. Nid darganfod Duw ei hun a wna dyn, ond derbyn yr hyn y gwel Duw yn dda ddatguddio ohono ei hun iddo. Y mae pob un a gymer ei ddysgu gan arall yn cydnabod awdurdod y dysgawdwr, boed ddynol, boed ddwyfol; ac i'r graddau yr edrychir ar grefydd yn ddatguddiedig, y mae'n rhaid gwneud lle ynddi i awdurdod. Gwneir He i awdurdod mewn crefydd gan bawb