Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1. Y mae'r un diffyg yn perthyn iddi hi ag a ddywedwyd a berthyn i gydwybod, sef diffyg sefydlogrwydd. Y mae'r Eglwys Babaidd wedi cyfnewid yn ei hathrawiaeth a'i disgyblaeth ganwaith. 2. Nid yw'r honiad y dibynna'r Beibl ar yr Eglwys ond hanner gwir. Fel llyfr y mae'r Beibl yn gynnyrch yr Eglwys, ond fel datguddiad y mae'n ei blaenori. Tra yn gwadu hawl yr Eglwys Babaidd i alw ei hun yn unig wir Eglwys Crist, credwn ei bod, er ei holl ddiffygion, yn gangen wirion- eddol ohoni; ac, fel y mae'n gangen wir o Eglwys Crist, preswylia Ysbryd Crist ynddi, a dyry hwnnw hawl ac awdurdod iddi i ddysgu crefydd, er nad i fod yr awdurdod derfynol mewn crefydd. I raddau mwy neu lai addefir fod yr awdurdod yma mewn crefydd yn eiddo i bob gwir gangen o Eglwys Crist. Oni dderbyniodd pawb ohonom ein syniadau cyntaf a mwyaf sylfaenol am Dduw, am foesoldeb, ac am ein dyledswyddau ar awdurdod yr eglwys y magwyd ni ynddi ? Oni ddysgwyd ni pan yn blant ganddi ? Oni dderbyniasom am flynyddoedd y syniadau mwyaf fel gwirioneddau diddadl ar bwys tystiolaeth ein heglwys ? Ac onid yw mwyafrif ein haelodau eglwysig heddyw, i bob pwrpas, yn cydnabod fel gwirioneddau ansigledig yr hyn a ddysgir iddynt gan eu heglwys, heb. chwilio o gwbl drostynt eu hunain ? Methwn weled y gellir gwadu awdur- dod yr Eglwys mewn crefydd heb wadu yr hyn, yn ymarferol, a honnwn o hawl i bob cangen o'r Eglwys Brotestanaidd. O'r ochr arall, gyda'r Esgob Gore, carwn bwysleisio'r gwahaniaeth sydd rhwng yr awdurdod yma fel yr arferir ef gan y Babaeth ac fel yr honna'r Protestaniaid ei arfer. Y mae dau fath o awdurdod, medd Gore (Bampton Lect., vii.)-awdurdod yr archdeyrn (tyrant) ac awdurdod y tad. Ceisia'r naill gael ufudd-dod dall, digwestiwn, tra'r amcana'r llall ennill ufudd-dod rhesymol a deallgar. Honna'r Babaeth fod yr awdurdod a fedd yn rhoi hawl iddi i ufudd-dod dall ei deiliaid. Gwada hawl unrhyw un i ofyn rheswm dros ufuddhau, a gwada allu'r lliaws i ddeall y rheswm pe y'i rhoddid. Dyledswydd pawb yw gwneud yr hyn a orchymynnir, a chredu yr hyn a ddysgiri er heb ddeall ystyr y naill na'r llall. Nid dyma'r awdurdod a fedd yr Eglwys mewn crefydd. Y mae gan bob cangen o'r Eglwys awdurdod, a dylai ei harfer i ddysgu plant ac aelodau yr eglwysi yng ngwirioneddau crefydd a moes fel y'u credir ganddi; ond dylai gofio natur yr awdurdod a fedd, a dylai geisio ennill crediniaeth yng ngwirioneddau crefydd ac ufudd-dod iddynt a fyddo'n codi oddi- ar ddealltwriaeth a chydsyniad ewyllys y rhai a ddysgir. Ofnwn fod tuedd rhy babyddol yng nghyfundebau Protestanaidd Cymru a'r Almaen-tuedd i geisio mygu ysbryd ymchwiliad i wirionedd ein hathrawiaethau, tuedd i siarad yn wawdus a chaled hyd yn oed am