Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddwywaith. Rhoes ef anerchiad ardderchog yr ail dro ar ddylan- wad meddwl pur ar efrydiaeth. Sylwodd y Principal nad oedd yr anerchiad hwnnw yn ddim ond enghraifft dêg o'r hyn a arferent gael gan yr un llefarwr yn y Bala, ac mai wrth wrando ar un o'r anerch- iadau hynny y darfu iddo ef benderfynu ymroi o ddifrif i'w efrydiau. Clywais ef fwy nag unwaith yn cwyno am ei ddiffyg hyder pan yn efrydydd ieuanc, gan ychwanegu y gallasai efe onibae am hynny, ysgatfydd, fod yn rhywun erbyn hynny. Ac mewn pregeth unwaith, wrth bregethu o flaen ei dad ar noson olaf cyfarfod pregethu Siloh, Caernarfon, mynegai ei brofiad gyda theimlad tlws, mai'r hyn a'i hachubodd o'i anymddiried ynddo'i hun oedd golwg ar Berson Crist, "a deffrodd hynny ynof ddyfnderoedd o feddwl, a dyfnderoedd o deimlad, a dyfnderoedd o garictor moesol — gobeithio Yr oedd cryn siarad yn y wlad ar y pryd oherwydd ei waith yn ymgymeryd a bod yn llywydd y clwb chware yn y Coleg, a bu'r peth, os wyf yn iawn gofio, dan sylw ei Gyfarfod Misol ef, a dyna'r rheswm yn ddiau am y cyffyrddiad olaf yn y gair gobeithio. Ni a gawsom gynghorion ynglyn â'n gwaith a'n hymddygiad gan Y Gohebydd, Hugh Owen (Syr ar ol hynny), yr Archddiacon Griffìths o Gastellnedd, Edward Thring, ac ereill. Yr wyf yn cyfrif anerch- iadau yr Archddiacon Griffiths, a glywais ganddo ynglyn âg agoriad y Coleg, a dirwyniad i fyny pob Session, ac ar achlysur cyfarfyddiad Pwyllgor y Coleg yn Aberystwyth, fel y pethau hyawdlaf, yn y ffordd o anerchiadau oddiar y llwyfan, a glywais i un amser. Byddai efe yn fynych yn anelu ei gyfarchiadau yn uniongyrchol at y myfyrwyr, ac arferwn i feddwl y gwerthfawrogai y Principal hynny yn fawr. Ar ol un anerchiad ganddo yn cymerýd y llwybr hwnnw, cyfeiriodd y Principal gydag edmygedd at ei allu to lash the vices of students." A thybiaf mai ar ei gais ef y darfu i'r Archddiacon un- waith baratoi anerchiad pwrpasol i'r efrydwyr. Darllen hwnnw a ddarfu, ac nid oedd efe yn gallu rhoi yr un ysbryd yn yr hyn a ddar- llenai a phan yn siarad mewn dull rhydd. Cynwysai yr anerchiad hwnnw ei adgofion am ei addysg foreol, a soniai am un hen ysgol- feistr iddo a fwriai allan fygythion enbyd weithiau, gan ddirwyn i fyny gyda'r bygythiad o roi'r cwbl mewn gweithrediad yn fuan, and that very indirectly too." Ymhen'ryw fythefnos ar ol ail anerchiad Owen Thomas y bu Edward Thring yn ein cyfarch. Efe ydoedd pennaeth Ysgol Uppingham, ag oedd ar y pryd wedi ymsefydlu yn y Borth, ger Aberystwyth. Galwodd y Principal ei anerchiad ef y goreu a glywodd erioed. Ni a gaem anerchiadau ar faterion llenyddol neu wyddonol yn amlach. Bu Mark Pattison, un o hen athrawon y Principal, ynoyn