Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

darllen papur ar yr efrydiaeth o lenyddiaeth Seisnig. Ar y diwedd sylwodd y Principal fel yma: When a student with Mr. Pattison I feared him-I feared him in class. I am not afraid of him now; but I respect him now. If one man is indebted to another for ideas, then I am certainly much indebted to Mr. Pattison. It was a beautiful address, beautiful in thought, and beautiful in language." Mae'n debygol mai trwy drefniad y Principal y cawsom glywed Ioan Petr ar ddaeareg Cymru, Robert Jones o Rotherhithe ar Farddoniaeth Gymreig, a John Rhys ddwywaith ar Ieithyddiaeth Geltaidd. Yn ei ddarlith gyntaf, wrth ei ddwyn ef i'n sylw gyda rhyw eiriau o glôd i'w gyrhaeddiadau, awgrymai y Principal y priod- oldeb iddo gael ei bennodi i'r Chair of Celtic in the University College of'Wales." Hyn gyda rhywbeth rhwng gwên a chwerthin: tra'r oeddid yn edrych ar y darlithydd yn deilwng o'r swydd, teimlid hefyd bod y swydd yn deilwng o'r darlithydd. Cydiodd y darlithydd yn ei bwnc heb gymeryd arno glywed, a chiliodd y wên oddiar wyneb y Principal. Nid ymddanghosai bod llenwi y "Chair of Celtic" yn yr "University College of Wales" yn beth mor bwysig yngolwg John Rhys ag ydoedd yngolwg Prifathraw y sefydliad hwnnw. Apeliai y Principal ei hunan atom yn ddifrifol iawn bob yn awr ac eilwaith, ar ryw achlysur neu gilydd. Clywais ef yn cwyno ar dro felly am na chawsai efe bregethu i ni yn y Coleg My hands are tied," meddai, gydag awyddfryd yn ei dôn. Apeliai atom yn fynych "for the sake of the College:" "you have the making of the College in your own hands." Rhybuddiai ni ynghylch dylanwad ein hymddygiad ar y sefydliad: os na byddai ein hymddygiad yn deilwng, yna, the whole thing will collapse like an umbrella." Clywais yr ymadrodd hwn ganddo ddwywaith trosodd, er mai peth eithriadol oedd iddo ef ail-ddyweyd ei hunan yn y cyfryw ddull. Dengys crybwyllion o'r fath y mawr ofal calon a ddygai trosom ni a'r Coleg. Yn wir, efe a ddywedai wrthym unwaith y collai gwsg o bryder am ein carictor moesol. Tebygol mai wedi clywed rhywbeth anfoddhaol ganddo yr ydoedd am rai ohonom ar y pryd. Cofiwyf am dano yn y seiat nos Sul yn Engedi, ar ol yr oedfa gyntaf a glywais ganddo, yn rhoi mynegiad i'w bryder am ddynion ieuainc a elai o'r wlad i Ler] pwl, lle'r oedd efe ei hunan y pryd hwnnw: "Mae cyflwr llawer o ddynion ieuainc yn ddigon i godi clwyf ar galon dyn; ond y mae rhai bechgyn glân yn dod atom." Cofiaf fyth am y pwyslais ar y geiriau bechgyn glân." Dyma rai o'r ceinciau a glywid ganddo yn ei gyfarchiadau atom: Be perfect gentlemen," Abhor telling or acting an untruth," Be courteous to your fellow-students," Be earnest," Never lose a minute of time," gyda rhyw bwyslais dwys ar a minute of time," ac unwaith, gan ddyfynnu ymadrodd a glyw.