Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LOWRI WILLIAM, PANDY'R DDWYRYD. DAETHUM o hyd i'r llyfryn bychan sydd yn dilyn ym Maentwrog Uchaf, a theimlais ei fod yn dra dyddorol. ac yn werth i'w ad- argraffu. Nid oedd fy nghyfaill, y diweddar Barch. Robert Owen, M.A., Pennal, wedi ei weled, fel yr addefai, pan yn ysgrifennu Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd. Parth yr awdwr, Mr Richard Jones, yr hwn fel y gwelir oedd yn ddisgynnydd o Lowri William, cefais ar ddeall gan un oedd yn ei adnabod yn dda ei fod yn bregethwr gyda changen o'r Wesleyaid, ac yn byw ym Menygerddi, gerllaw Maentwrog Uchaf, ond iddo ymfudo i'r America. Yr eiddoch yn gywir, Bontddu, Dolgellau. JOHN DAVIES. Y GORSEN YSIG, neu LIN YN MYGU sef Hanes dechreuad a chynydd Corph y Trefnyddion Calfinaidd, yn fwyaf neillduol yn y Rhanbarth Ogleddol o Gymru mewn cyn lleied o Ie ag a ellir. Gan Richard Jones, Gwyndod-wryf. Llanrwst: Ar- graffwyd gan John Jones. At y Darllenydd. Braidd na thybiwn dy fod yn gwenu wrth ddechreu darllen yr hanes a nodir â yr enw Y Gorsen Ysig, neu Lin yn Mygu," gan ddisgwyl cael rhyw hanesion godidog; ond ar ol ei ddarllen unwaith drosodd, wedi hyny ei daflu o'r neilldu, gan ddywedyd, Cçwael iawn, yn wir. Yn awr, caffed amynedd ei pherffaith waith," a rhoddwch le i reswm, canys myfi a lafuriais o tan lawer iawn o anhawsderau; nid yn unig fy ammherffeithrwydd fel ysgrifenydd, hawdd y gallaswn gael rhywun mwy ei ddeall na myfi at hyny; ond anhawsach o lawer oedd cysoni hen hanesion â'u gilydd allan o benau hen bobl drwsgl, yn enwedig a chymaint o flynyddoedd wedi myned heibio. Odid y ceir onid un o'r hen bobl a wyddant am L. W. [Lowri William] o tan 80 mlwydd oed, o ganlyniad ni ellir disgwyl ond hanesion go anmherffaith, canys ni ddarfu i neb gadw un ysgrif er coffadwriaeth am yr hen bererinion ffyddlon a fuont â'u hysgwyddau dan yr arch i aros i ni fyned i mewn i'w llafur hwynt. Ar draul eu gofidiau hwy yr ydym ni yn cael tawelwch i addoli Duw yn ddi- berygl. Yn awr, tybiwyf dy fod yn barod i ofyn pa beth a'm tuedd- odd i feddwl am y fath orchwyl a hwn ? I hyn atebaf, i mi olrhain pob hanesion a allwn gael, ac er chwilio llyfrau yn fanwl ni chefais fy moddlonì. Rhyfeddais yn fawr weled y Drysorfa Ysprydol heb un gair o son am L. W., Pandy'r Ddwyryd. Gan fod genyf ryw wreichionen bach, debygaf, o sêl dros ogoniant Duw, a bod L. W. wedi bod yn fam i fy nhad, eiddigeddais yn achos yr hen gyff o'r 11e