Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYWYD CREFYDDOL LLUNDÄIN.* TEILYNGA'R gyfrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn cynnwys canlyn- iadau'r cyfrifiad a wnaed gan y Daily News o fynychwyr eglwysi a chapelau y brif-ddinas, ystyriaeth fwyaf difrifol arweinwyr crefyddol y deyrnas a charedigion crefydd yn gyffredinol. Gwnaed dau gyf- rifiad blaenorol, un yn 1851 a'r llall yn 1886, ond yr oedd y rhai hynny yn dra diffygiol o'u cydmaru â'r cyfrifiad presennol. Am gyfrifiad 1851, gwnaed hwnnw gan y llywodraeth, a'r dull a gymer- wyd oedd gofyn i'r eglwysi eu hunain wneud y cyfrif. Diameu i fwyafrif mawr yr eglwysi anfon i fewn gyfrifon cywir, eto nis gellid dibynnu arno fel ar gyfrif a gymerwyd yn anibynnol ar yr eglwysi. Gwnaed cyfrifiad 1886 gan y British Weekly. Yr oedd hwn yn llawer cyflawnach na'r un blaenorol, ond nis gellid bod yn hollol foddlawn arno. Dyma rai o'i ddiffygion: ni chyfrifwyd unrhyw wasanaeth cyn un-ar-ddeg o'r gloch gadawai felly allan o'r cyfrif lawer o gynulliadau y Pabyddion i'r Offeren." Hefyd, gadawyd y gwaith o gyfrif y Neuaddau a'r Ystafelloedd Cenhadol i'r rhai oedd yn gofalu am danynt. Heblaw hynny, amcanwyd gwneud y cyfrif yr un Saboth drwy Lundain i gyd: prin yr oedd hyn yn rhoddi golwg mor deg ar y sefyllfa ag a roddid gan gyfrif wedi ei gymeryd ar amryw o Suliau, am fod y "tywydd" ar un Sul neillduol yn effeithio yn fawr ar y cynulliadau y Sul hwnnw, ac nas gellid ei gymeryd fel cyfartaledd y presenoldeb cyson. Hefyd, yn y cyfrifon hyn ni wnaed un ymgais at gyfrif y ddau ryw ar wahan, nac ychwaith i wahaniaethu rhwng oedolion a phlant. Yn 1902, gan hyany, ymgymerodd perchenogion y Daily News â gwneud cyfrifiad arall, a phenodwyd Mr. R. Mudie Smith i'w arolygu. Estynodd y gwaith dros flwyddyn o amser, a chyhoeddwyd y cyfrifon o bryd i bryd yn y Daily News. Yn awr, dyma'r oll wedi eu casglu ynghyd a'u cyhoeddi, gyda mapiau a diagramau, yn un gyfrol werthfawr dan olygiaeth Mr. Mudie Smith. Cynwysir yn y gyfrol hefyd erthyglau ar lawer o wahanol agweddau bywyd crefyddol Llundain, ac ar y cyfrifon fel y maent yn ymwneud â gwahanol ran-barthau y Ddinas, gan rai yn meddu cymwysderau arbennig at hynny. Y dull a gymerwyd oedd cyfrif un fwrdeisdref ar y tro. I'r diben yma yr oedd yn rhaid cael byddin o gyfrifwyr profedig. Rhifai The Relìgiom Life of London. Edited by R. Mudie Smith (Hodder and Stoughton).