Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

310 ER COF. ogystal a rhai ffeithiau sydd i raddau yn goleuo y darlun adynnir yn y gyfrol,-megis yr Ysgolion Sul, yr "Adult School Movement," &c. Prin y rhoddir i'r Ysgol Sul y 1le a deilynga yn y gyfrol, nac yn y cyfrifiad. Paham na chyfrifwyd hwy? Hyderwn yn fawr fod llaweroedd yn ein plith sydd yn astudio y gyfrol drostynt eu hunain. Y mae crefyddwyr y deyrnas yn dra dyledus i berchenogion y Daily News am y gwasanaeth anmhrisiadwy a wnaeth drwy gymeryd y cyfrif. Y mae tôn uchel a nodwedd bur y newyddiadur hwn yn un o'r dylanwadau iachusaf a feddwn yn awr yn mywyd y deyrnas. Gwrecsam. J. WILLIAMS. ER COF.* Wŷr y llygad sych a'r galon oer a chaled, ciliwch draw Na foed ond calonnau tyner allant wylo'n awr ger llaw. Symledd hiraeth mynwes glwyfus a gaiff wisgo'r gân i gyd,- Heb un linnell yn dwyn delw rhwysgfawr ddawn rhagrithiol fyd. Haws yw cadw ffug a lledrith rhag difwyno gwedd y gân, Na rhoi ar yr allor yma dewyn o ddîeithrol dân Ein Helïas anwyl, ëon, heddyw yn ei fedd yn fud, Dyma'r testyn-testyn geidw hiraeth byw yn nghalon tud. Tyred, Awen, llunia ddarlun,-dangos ar dy lèn y dyn Yn y rhagorolion hynny ddeil ein meddwl wrtho'n nglŷn Dilyn uniawn lwybr ei fywyd, noda sylfaen gref ei glod, A'r amynedd na ddiffygiodd nes cyrhaeddodd ef y nod. Glan a siriol oedd ei wyneb, llawn delweddau hoffai'r hen- Pwyll, gonestrwydd, a hynawsedd ;-teimlai plentyn swyn ei wên. Cyflym, ysgafn ei gerddediad, megis gwr yn hoffi gwaith Golwg arno leddfai flinder llesg bererin ar ei daith. Mab tangnefedd oedd, a mwynder ysbryd Iesu yn ei wedd­ Prawf o'r gwerth mewn byd terfysglyd sydd mewn dyn yn caru hedd. Yng nghol glyd Llangollen swynol, gerllaw Castell Dinas Bran, Tynnodd ei anadliad cyntaf-yn swn dawns y Ddyfrdwy lân. Angel gwyn oedd yno'n gwylio rhag i'r baban tlws gael cam: Gwenai'r nef a'r ddaear arno pan yn sugno bron ei fam. Hauwyd gan rieni duwiol hadau bywyd teyrnas nef Am yr Henadur Elias Jones, U.H., Llandudno.