Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yna wylo 'n drwm pan gofiem na chaem wel'd ei wyneb mwy. Cwmwl tristwch orffwys heddyw ar ei edyn duon, llaith, Uwch ben Meifod, ond fe'i holltir i'r goleuni ambell waith. Yno 'i briod gu och'neidia o dan bwys yr hiraeth mawr- Nes y clyw, bob dydd, yr awgrym ddaw o borth y nefol wawr. Dydd ei arwyl, troellai trallod Trwm oedd cerdded tua'i feddrod. Mawr y dorf a ddaeth i'w hebrwng; Anhawdd, anhawdd oedd y gollwng! Argae teimlad tref a dorodd, O ryferthwy trwy yr adwy hon a redodd Delwi poen wnai 'r dagrau gollwyd,- Purach dagrau i gell angau ni ollyngwyd. Cylch ei fedd ni thry yn lasdir: Gan ein plant fe'i mynych sethrir. Ar ddydd angladd ato cyrchant, Wrth eu didwyll blant dywedant, Dyma fedd yr Ynad Heddwch Ei dduwiolach na'i anwylach byth ni welwch. Ni chaiff amharch neshau ato: Tra bo daear fe geir Galar yma 'n gwylio." Cwsg, fy mrawd, yn dawel ennyd Wrth hir wylo 'rwy' innau 'n gwyro tua'r gweryd: Buan, buan rhaid ymuno Fel tydithau gyd a'r tadau 'n Mynwent Tudno. Llandudno. THOMAS JONES. NODIADAU DUWINYDDOL A LLENYDDOL. Nis gall unrhyw efrydydd fethu llawenychu o gael gweled wedi ymddangos gyfrol newydd o waith y diweddar Broff. Davidson, o Edinburgh, ar Dduwinydd- iaeth yr H.D. yng nghyfres yr International Theological Library, a gyhoeddir gan T. & T. Clark (pris i2s ). Cyn ymadawiad y Proffeswr yr oedd y gyfrol hon yn weddol barod i'r wasg, eithr bu raid ymddiried y gwaith o'i dwyn allan i'r Prif- athraw Salmond, o Aberdeen, golygydd cyffredinol y gyfres, am yr hwn waith, gofalus a deallus er pob anhawster, dyledus iawn iddo yw diolch pur pob efryd- ydd. Bellach, pwrcasu a darllen y gyfrol fydd y warogaeth uchaf ellir ei dalu i goffadwriaeth yr ymadawedig; ac o wneud hyn, heb os nac onibae, nid y darllen- ydd fydd ar ei golled, os gallai rywsut rywfodd fod neb rhyw un felly.