Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ac fe raid ei gadw yn rhesymol. Oherwydd hynny, fe raid gadael y gweddill o'r bennod hynod ddyddorol hon lle y ceir ymdriniaeth helaethach ar waith y Messiah nag a geir ar ei berson. Yn unig, goddefer gair eto i'r un cyfeiriad a'r sylw wnaed ar ddechreu y Nodion hyn. Tra nas gallwn gredu fod Davidson wedi dihysbyddu yr athrawiaeth am y Messiah yn yr H. D., nis gallwn ychwaith ond datgan gyda hyfrydwch ein diolch diamwys am y modd yr ailffurfiodd dduwin- yddiaeth yr H. D., gan dalu pob gwarogaeth i gasgliadau beirniadaeth ddiweddar fel y gallo pob efrydydd yn hyderus ddechreu ei waith gyda'r dybiaeth sicr honno ar ol pob chwalfa, fe saif y sylfaen yr un, ac fe saif gweddill yr adeilad yn fater o farn bersonol. Hyd yma, prin y gellir dweyd fod yr oll a dybid gynt yn aros yn ffaith. Try y gwahaniaeth ar hyn yn gwestiwn o raddau yn hytrach nag o egwyddor. WILLIAM GLYNNE. Dwyfol Gan DANTE: Annwn, Purdan, Paradwys. Y Cyfieithiad gan DANIEL REES: y Rhagdraith gan T. Gwynn Jones y Darluniau gan J. KELT EDWARDS; y prif-Iythrennau gan Louise Rolfe a PHŒBE REES. Mcmiii- Caernarfon: Swyddfa'r "Herald." London: David Nutt. Newydd ddyfod i'n llaw y mae y gyfrol fawr a gorffenedig hon. Edrychasom drosti a thrwyddi, ac nid boddhad cyffredin oedd hynny. Y mae y rhwymiad yn syml ac urddasol, mewn llian gwyn, gyda llythyreniad du, a'i thalcen uchaf yn oreuredig. Prydferth ac effeithiol ydyw y testyn ar y wyneb-ddalen mewn pedair llinnell goch ac y mae yr argraff yn glir a glanwaith Nid caffaeliad bychan i'r darllenydd fydd fod pob pennill yn y cantawdau wedi eu rhifo yn 01 nifer y llinellau. Mae'r papyr yn wyn a thrwchus, a phob peth yn y gyfrol yn dangos y gofal mwyaf. Mae ymddangos- iad cynifer o ddarluniau o faintioli mor fawr, yn enwedig gan Gymro, yn beth newydd ar y ddaear Gymreig, ac yr ydym o galon yn croesawu ail-ddyfodiad yr hen ddull o addurno'r Prif-Iythrennau. O ran ei dygiad allan deil y gyfrol gydmar- iaeth â dim a ymddangosodd yng Nghymru er y dydd y cyhoeddwyd y Mabinogion. Rhedasom yn frysiog iawn trwy ei chynwysiad; ac, mor bell ag y sylwasom ni, yr ydym yn addaw i ni ein hunain gryn loddest wrth ei darllen. Ond gan y dis- gwyliwn, mewn rhifyn dyfodol, ar ol darlleniad mwy gòfalus, allu rhoddi adrodd- iad llawnach am dani, nid ymhelaethwn yn awr. Yn unig dymunwn o galon lon- gyfarch yr awdwr ar orffeniad teilwng y fath waith mawr. Mae'n hollol amlwg na arbedwyd na thraul na thrafferth i wneuthur y cyfieithiad Cymreig o'r Ddwyfol Gân yn deilwng o arucheledd y Gân, ac o'r He mawr y mae wedi ei gymeryd a'i gadw yn llenyddiaeth y byd. BREUDDWYDION Y Dydd, mewn Barddoniaeth a Rhyddiaeth. Gan y Parch. J. J. ROBERTS (Iolo Caernarfon). Gwrecsam: Hughes a'i Fab, 1904. 3s. 6ch. Dyma'r pedwerydd llyfr i Mr. Roberts ddwyn allan -a'r mwyaf. Nis gwyddom yn iawn ymha ddosbarth i osod Mr. Roberts, nac yn mha wedd i edrych arno-ai fel Bardd ai fel Beirniad, ai fel Llenor ai fel Pregethwr, ynte fel Athronydd. Weithiau byddwn yn ei osod ymhobun o honynt.ac yn methupenderfynu ynsicryn ein meddwl ymha un o honynt y mae yn cartrefu oreu. Un peth yr ydym yn sicr o hono: ymha ddosbarth bynnag y rhestrir Mr. Roberts pa beth bynnag fyddo ei destyn, ac ymha wedd bynnag yr edrycha arno -yr ydym yn hollol sicr o gael newydd-deb, beiddgarwch, a synwyr. Nid yn unig y mae ef yn sicr o ddweyd rhywbeth wrthym, ond hefyd o ddweyd y peth hwnnw mewn ffordd na ddywedodd neb arall mo hono yn union yr un iath, ac mewn ffordd hefyd sydd yn sicr o adael argraff arhosol arnom. Yn y blynyddoedd hyn y mae Gwyl Dewi yn cael ei chynnal gyda mwy o rwysg a chysoadeb gennym fel cenedl nag y gwnaed erioed o'r blaen; a byddai darllen y Bryddest gyntaf yn y gyfrol-Pryddest y Goron yn