Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eisteddfod Rhyl, 1892, yn sicr o beri i ni ddathlu coffadwriaeth y sant gyda llawer mwy o zel a dealltwriaeth. Llawer sydd wedi ei ysgrifennu ar hanes a gweithiau Shakspeare, ac y mae Iolo wedi treio ei law arno. Teimlem yn chwilfrydig, i raddau, i wybod beth oedd ganddo i ddweyd am dano. Ac er na chawsem ganddo lawer o wybodaeth newydd; eto y mae y wedd yr edrycha ar brif-fardd y Saeson, os nid y byd hefyd, yn newydd ac addysgiadol. Ceir yma erthygl ragorol hefyd ar Alun. Darn prydferth a nodweddiadol ydyw y darn ar Dr. Pughe, Aberdyfi (Ivan ap Hu Feddyg); a themtir ni i roddi difyniad bychan fel engraifft o'r cwbi o'r Bryddest ar Y DIWEDD:— Y Diwedd-Diwedd y diweddau i gyd, A fu neu ddaw i dragwyddoldeb mud Pa beth a fydd efe ? A rhywbeth mawr­ Mawreddog ac ofnadwy pwy a ŵyr Pa beth Ai ynys lawn o gofion per, Yn suddo o fod mewn môr cynhyríus ai Athrylith glaer yn machlud megis haul Yng ngwyll cyffrous gwallgofrwydd-boreu têr Yn troi yn nos dymhestlog banner dydd Ai haf cyfoethog o brydferthïon îr, Yn crino i auaf brochus ganol Awst Ai planed firain yn ymlosgi i ffwrdd Oddiar y nwyfre i ddiddymdra oer,- Diflaniad cenedl fu am lawer oes Yn penderfynu hanes dynolryw,- Neu rywbeth tebyg, fydd y Diwedd myg Gysgodion ofer Rithion Amser, ffowch Yr ydych wrth y Sylwedd mawr yn llai Na brwynen oleuedig wrth yr haul Y Diwedd tawel-dydd y Drindod myg, O Saboth nefol, anherfynoll-Duw. Ar ol ei waith mewn creadigaeth fawr, Rhagluniaeth ddofn, ac Iachawdwriaeth dyn, Yn ymlonyddu yn ei wynfyd pur;- Y Duw ag sydd yn bod o hono ei hun, Ac sydd o hyd yn ddigon iddo'i hun, Yn gorffwys yn ei anfeidroldeb têr, Ac ym mhelydron ei ogoniant byw, Nid oes un dòn ar eigion maith ei Fod Na gwynt a ddichon godi gwaneg byth. Nid oes un cwmwl ar ei wybren !erth, Na defnydd cwmwl, nac ystorm, na nos, Yn awyr iach a phêr ei fywyd pur O ddiwedd bendigedig, allaf fi, Bechadur mor anianol, dy fwynhau DESCARTES, SPINOZA AND THE NEW PHILOSOPHY. By James Iverach, M.A., D.D. Edinburgh T. & T. Clark, 1904. 3s. Yr oedd Descartes a Spinoza yn ddau anhebyg iawn i'w gilydd o ran eu golygiadau ond y mae y ddau ymysg y dynion hynny sydd wedi bod yn foddion i gieu cyfnodau newyddion ar y ddaear. I'r efrydwyr manwl dichon nad yw cyfrol fel hon yn ychwanegiad sylweddol at eu gwybodaeth. Ond i ddarllenwyr cymedrol, y mae cyfrol o fath hon, o dan gyfar- wyddyd arweinydd mor alluog a Dr. Iverach y peth goreu a e^ u 1 ddymuno. Y mae y llafur angenrheidiol i ddirwasgu cymaint o wybodaeth i le mor fychan yn orchestfawr.