Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. RABBI BEN EZRA. Dyma enw un o ganeuon y bardd Browning, yn yr hon y ceir Iddew oedrannus yn bwrw golwg dros flynyddoedd meithion ei oes, ac yn datgan ei syniadau ar gwestiynau mawrion bywyd. Er mai Iddew sydd yn llefaru yn y gân, syniadau Browning a draethir ynddi. Y mae yma, fel mewn caneuon eraill o'i eiddo, yn traethu ei syniadau, ac yn cyflwyno ei addysg trwy gyfrwng personau nad oedd bodolaeth iddynt ond yn nychymyg y bardd ei hun. Y mae yn y gân, fel yn holl weithiau Browning, ryw bethau an- hawdd eu deall, y rhai y mae yr anysgedig a'r anwastad yn eu gwyr- droi. Ychydig dros 60 mlynedd yn ol, anfonwyd cyfrol o eiddo Browning, Sordello," i'r adolygydd enwog Leigh Hunt am adolyg- iad i'r wasg. Yr oedd Hunt wedi bod am dymhor yn wael ei iechyd cyn iddo ymgymeryd a'r gorchwyl. Er mwyn yr adolygiad darllen- wyd y gyfrol ganddo fwy nag unwaith, a methai ei deall. Ni ddi- gwyddodd peth felly o'r blaen iddo, a bu'yn brudd ei ysbryd mewn canlyniad, gan y credai fod ei anallu i ddeall y gân yn arwydd fod yr afiechyd wedi amharu ei alluoedd, a bod ei feddwl yn dechreu gwan- hau. Methai ei briod a chanfod unrhyw arwydd o ddiffyg yn ei feddwl, ac er mwyn penderfynu y cwestiwn cytunwyd ei bod hi i ddarllen y gyfrol, a bod cyflwr meddyliol ei phriod i'w benderfynu ganddi ar.ol .y darlleniad. Wedi darllen y gyfrol dywedodd, gyda gwên ar ei gwyneb, wrth ei gwr: Don't be alarmed, you are not mad, but the man who wrote Sordello' is mad." Tybiai llawer gynt yn gyffelyb am Browning. Llefarid gyda diystyrwch am ei gynyrchion, ac edrychid arnynt fel caneuon aflun- iaidd a gwag. Llwyddodd, modd bynnag, o'r cychwyn i ennill rhai edmygwyr,- ychydig mewn nifer, pnd tywysogion ymmydy meddwl,-a pharha- odd am hanner can' mlynedd i weithio yn ddiwyd, heb ymgais am foddio y lliaws. Esboniodd yn onest y gweledigaethau â welai, a tMëthodd yn ffyddlawn y genadwri a roddwyd iddo, a chyn ei farwolaeth, yn y :flwyddyn 1887, yr oedd wedi «i osod. yn. rheng.