Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PABYDDIAETH A DATBLYGIAD. Y mae Cristionogion, yn Babyddion ac yn Brotestaniaid, wedi arfer cymeryd dyddordeb yn hanes yr Eglwys Gristionogol o adeg ei sefydliad gan yr Iesu a'i apostolion hyd ein dyddiau ni. Dirifedi yw nifer y cyfrolau ysgrifenwyd o bryd i bryd yn desgrifio hanes helyntus yr Eglwys yn y gwahanol gyfnodau. Gwyddom fanylion lawer erbyn hyn am lafur cenhadol ei hapostolion, a'r ebyrth mawrion wnaed gan ei phroffwydi yng wyneb gwrthwynebiadau cyndyn a dial- gar gelynion Cristionogaeth. Y mae sylw mawr wedi cael ei dalu i hanes tyfiant graddol ffurf-wasanaeth yr eglwysi a ffurfiad yr athraw- iaethau ystyrrir yn uniongred. Gwyddom hanes y brwydrau duwin- yddol ragflaènasant ffurfiad y prif Gredöau a ystyrrir yn bresennol yn safonau uniongredaeth yn ein mysg. Wedi gwybod y ffeithiau parthed hanes yr Eglwys, y mae arnom eisiau damcaniaeth fedr gyfrif am danynt. Dechreuir ymholi bellach parthed y nerthoedd fuont yn cudd-weithio er effeithio y cyfnewidiadau a ddesgrifir gan yr hanesydd. Mewn gair, gorfodir ni i athronyddu ar hanes yr eglwys, er amddiffyn neu gondemnio y ffurfiau y mae ei bywyd a'i syniadau wedi gymeryd oes ar ol oes. Yn dilyn yr hanesydd daw y beirniad a'r athronydd duwinyddol ymlaen i gyfreithloni y cyfnewidiadau, neu i feio arnynt fel Uygriadau anghyson âg egwyddorion sylfaenol y grefydd Gristionogol. Yn y diriogaeth hon, fel beirniaid hanes yr Eglwys, y llafuria rhai o'n meddylwyr duwinyddol galluocaf yn y blynyddau hyn. Oes beirniad- aeth yw yr oes hon; a rhaid i Gristionogaeth, fel pob sefydliad arall, ymfoddloni i'r driniaeth. Nid gwaeth gwirionedd o'i chwilio' Gyda'r ychydig eiriau hyn fel rhagarweiniad, ceisiaf alw sylw yn yr ysgrif hon at y ddadl ddyddorol a boneddigaidd a gymerodd le yn ddiweddar rhwng Proff. Harnack a'r Abbe Loisy o berthynas i'r Eglwys Gristionogol. A ydyw y ffurfiau amrywiol y mae erthyglau cred a bywyd ymarferol yr Eglwys wedi eu cymeryd i'w hamddiffyn a'u cymeradwyo, ynte a oes gennym resymau digonol dros fyntumio y gallasai, ac y dylasai, y datblygiad fod yn wahanol a rhagorach ar rai adegau yn ei hanes ? Os yn credu fod Iesu wedi cyflawnu ei addewid i'w ganlynwyt'Wele yr wyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd," a raid i ni mewn canlyniad gredu hefyd fod yr eglwys wedi cael ei diogelu ganddo rhag cyfeiliorni yn ei swyddau, ei sacramentau, ei defodau, ei pherthynas â'r Wladwriaeth, yn ogystal ag yn ei hathraw- iaethau ?