Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wrth ddiweddu hyn o ysgrif, dymunwn ail-adrodd ein cred fod yr Iesu wedi cyflawnu ei addewid: Wele, yr wyf Fi gyda chwi bob amser." Yn ddiau, y mae yr Ysbryd Glân fel ysbryd y gwirionedd wedi bod wrthi drwy'r oesau yn tywys y Credinwyr i'r gwirionedd fel y mae yn yr Iesu." Ond am mai dylanwad moesol ydyw, yn apelio at gydwybod a natur foesol dynion, yn araf y gall lefeinio calonnau â'i ysbryd sanctaidd ef ei Hun. Gan mai drwy y gwirionedd yr effeithia gyfnewidiadau, rhaid iddo apelio at reswm a deall ysbrydol pob dyn. Ond gwaith araf yw cymwyso y galon, y serchiadau, a'r rheswm, i dderbyn hadau gwirioneddau ac egwyddor- ion Cristionogaeth. Fel hyn, nid wyf yn canfod fod cred ym mhreswyliad yr Iesu, drwy Ei Ysbryd, yn yr eglwys yn golygu fod yn rhaid i ni amddiffyn a chyfreithloni y cwrs y mae syniadaeth a bywyd yr Eglwys Gatholig wedi gymeryd drwy'r oesau. Na, dylid cydnabod, yn wylaidd, a gostyngedig, ac edifeiriol, ei bod yn fynych fynych wedi gwneud camgymeriadau. Yr edifeirwch goreu am y cyfryw yw manteisio arnynt er gochel eu hail adrodd yn y dyfodol. D. ADAMS. MARGARET THOMAS YR EMYNYDDES. •nr' CvN cyfeirio at y wraig dda hon a'i hemynnau, goddefer i mi wneud un nodiad byrr. Ysgrifenais erthygl i'r Traethodydd am Ionawr, 1901, ar Awduriaeth Salmau Cân Edmwnd Prys," yn dangos mai cyfieithiad ydynt o Salmau Cân Saesneg Sternhold a Hopkins. Bu rhai yn cwyno am i mi feiddio dweyd hynny, er mor bendant yw y profion. Y dydd o'r blaen, pan yn edrych dros y Casgliad nodedig o Feiblau Cymraeg sydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, gwelais yno yr argraffìad cyntaf o'r Salmau Cân gan Prys, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1621, a dyma ei wyneb-ddalen, wedi ei hysgrifennu gan yr Arch- ddiacon ei hun Llyfr y Psalmau, wedi eu cyfieithu a'u cyfansoddi ar fesur cerdd yn Gymraeg, drwy waith Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionydd, a'u printio yn Llundain, 1621." Gwelir, felly, ei fod ef ei hun yn cydnabod y Cyfieithiad. Ond awn at hanes Mrs. Margaret Thomas, Talybont Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon. Dro yn ol, wrth chwilio am awduron emynnau, dywedwyd wrthyf mai y wraig uchod gyfansoddodd yr emyn cyfarwydd, Dyma Feibl anwyl Iesu," &c.