Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y gallai hyn ddigwydd, a hynny mewn llyfrau gyhoeddid yng Nghaer- fyrddin, cartref Mr. Charles. Yr atebion a gefais oedd fod Mr. Charles yn arfer ysgrifennu i lawr emynnau hoff ganddo i'w dwyn gydag ef, oblegyd nid oedd llyfrau yn cael eu defnyddio yn yr addol- dai y pryd hwnnw, ond y pregethwr yn rhoddi y pennill allan "o'i frest." Wedi cael emyn Morgan Rhys yn llawysgrifen Mr. Charles, tybiwyd mai ei eiddo ef ydoedd. Gallai peth tebyg fod wedi arwain i lawer o'r camgymeriadau. Mae mwy o ofal wedi ei gymeryd yn y mater hwn gyda'r llyfrau Hymnau diweddaraf, ac y mae y gofal hwn yn dra chanmoladwy. Byddai yn dda gennyf gael gwybod eto enw awdwr yr emyn hwnnw a genir ym mhob man:- Bydd myrdd o ryfeddodau," &c. THOS. LEVI. CAMMURABI A'I GYFREITHIAU. CAMMURABI. O'r pethau pwysig sydd wedi eu dwyn i'r goleu yn adfeilion Babilon ac Assyria, ni chanfyddwyd dim pwysicach na chasgliad o gyfreithiau Cammurabi. Hwn, yn ddiamheu, oedd y mwyaf a'r enwocaf o holl frenhinoedd Babilon. Nebuchodonosor ydyw yr unig un mawr ac enwog y gwyr darllenwyr y Beibl yn gyffredin am dano. Yr oedd Cammurabi, yn ei ddydd, yn llawer mwy ac enwocach nag ef. Gosododd Cammurabi ymherodraeth Babilon ar seiliau a sicrhasant ei huwchafiaeth, bron yn ddi-dor, am bymtheg canto flyn- yddoedd. Hwn gyneuodd y tân. Gwreichion yn codi o'r tân hwnnw cyn iddo orffen llosgi allan oedd gogoniant brenhinol mwyaf Nebuchodonosor. Nis gallwn fod yn hollol sicr am adeg teyrnasiad Cammurabi. Nid oes neb yn ei osod yn ddiweddarach na'r ugeinfed ganrif cyn Crist: ac y mae rhai yn ei osod mor foreu a 2285. Yr ydym yn ddiogel, felly, wrth gymeryd yn ganiataol ein bod yn ymwneud â pherson oedd yn byw tua 4000 neu ragor o flynyddoedd yn ol. Credir yn gyffredin gan hynafiaethwyr mai yr un ydyw Cammu.' rabi ag Amraphel, brenhin Shinar, Gen. xiv., un o gyngreiriaid Cedorlaomer, brenhin Elam. Oddiwrth yr hyn a wyddom yn awr, tebyg mai o orfod, ac o'i anfodd, y cymerai ran yn y rhyfel hwnnw.