Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THOMAS CHARLES EDWARDS. ADGOFIAD. III. Cwynai un o Joumalists pennaf y dydd, ac un o'r darllenwyr mwyaf, amser yn ol, gyn lleied oedd yn aros gydag ef o'r oll a ddar- llenodd neu a wrandawodd. Fe ychwanegai i ryw nifer o ymad- roddion lynu wrtho, ac hyd yn oed ddylanwadu yn fawr arno, ac yna êl ymlaen i roi enghreifftiau o hynny. Nis gallaf fi honni i un- rhyw ymadrodd a glywais gan y Principal, neu unrhyw bregeth, greu cyfnod newydd yn fy hanes. Ond bu y cyfarfyddiad âg ef, i mi, y symbyliad meddyliol cyntaf y gwybum am dano, a'r cryfaf hefyd, fel yr ydoedd yn haws iddo fod ar y cyfrif hwnnw. Yr oedd darllen Taith y Pererin ynghyd a'r Testament Newydd, ychydig cyn hynny, wedi deffro'm natur i ymdeimlad â'r ysbrydol hyd at fesur o ofn a chryndod. Aethum yna o dan ddylanwad y Principal yn y cyflwr cyfaddasaf i dderbyn argraff. Wrth geisio adrodd yr hyn a argraff- odd ei hunan ar fy nghôf, yr wyf yn meddwl fy mod yn canfod yn fwy amlwg nag o'r blaen, mai nid i'r hyn a ddywedid yr oeddwn yn ddyledus yn gymaint ag i'r ysbryd yn yr hwn y dywedid ef, er bod y ddau ynglyn â'u gilydd yn ddiau. Eithr fe all fy ngwaith yn adrodd yr hyn a gofiwyf fod yn foddion i ddangos rhai o arwyddion ffordd tramwyfa ysbryd nodedig yn ei ddydd yng Nghymru. Nid y pethau goreu a gofir gennyf o angenrheidrwydd, ond y pethau cyfaddasaf i mi ar y pryd. Diangai y pethau dyfnaf yn fynych rhagof. O'r hyn a adroddir yn yr adran hon, cystal ag mewn mannau ereill, mae'r rhan fwyaf yn cael ei ddodi i lawr yma am y tro cyntaf; ac ysgrif- ennwyd y gweddill, oddigerth rhai pethau meithach na'u gilydd a ddodwyd i lawr yn union ar ol eu clywed, ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy.ar ol i mi adael Aberystwyth. Nis gallaswn gofio cymaint a hyn, er gwaeled ydyw'r adroddiad, onibae fy mod ar y pryd yn gwrando gydag awch edmygus, ac wedi troi a throsi'r pethau yn fy myfyrdod. Yr wyf yn tybio mai yn yr anerchiad y cyfeiriwyd ati ar agoriad y Gymdeithas Ddadleuol y clywais ef yn dweyd i sylw yr oedd wedi ei ddarllen ychydig cynt wneud gryn argraff arno, sef y gallesid crynhoi holl ddrychfeddyliau y byd i ryw ugain o nifer. A dywedai ddarfod iddo yntau feddwl y gallesid eu crynhoi ymhellach i rhyw ddau neu dri. Yr oedd hwn yn sylw nodweddiadol neidiai ei feddwl yn y dull yma ar un lam at y casgliadau mwyaf eofn, BofndraY sylw oedd yn peri i mi ddal arno, nis gwyddwn oll pa