Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARGANFYDDIAD NEWYDD 0 EIRIAU'R IESU. Y mis hwn, yn Llundain, gellir gweled darn o ysgrif wedi ei ddwyn drosodd yno o wlad yr Aifft. Y mae yn cynnwys nifer o ddywed- adau gan yr Iesu, newydd eu darganfod. Nid oes hanes gennym i'r Arglwydd ddywedyd llawer pan oedd ar y ddaear. Ei arfer oedd llefaru am y pethau uchaf yn unig, ac yn fyr am y pethau hynny. Eto nis gallai iaith gyrraedd yn uwch ac nis gallai geiriau fod yn fwy tanbaid. Y mae gwerth amhrisiadwy yn perthyn i bob peth a ddywedodd. Ac nid ydym yn rhyfeddu fod pob gair yn sefyll allan heddyw yn fwy disglaer nag erioed. Ni siaradai mewn brawddegau anhawdd; gallwn eu dysgu a'u deall yn hawdd; gallwn eu profi, mewn ymarferiad, os mynnwn; ond un peth sydd amhosibl, nis gallwn eu treulio allan. Maent yn cynnwys y cwbl sydd arnom eisiau. Myned yn ddyfnach y maent bob tro yr efrydir hwynt. Myned yn fwy cyflawn, megis. Pwy bynnag sydd yn derbyn y geir- iau hyn, nid oes un gallu dan wyneb haul a fedr gymeryd eu lie. Y mae'r dyn ei hunan yn ymryddhau trwyddynt. O hynny allan nid oes yr un gyfraith wladol a fedr ei rwymo. Nid oes brenin yn teyrnasu na llywodraeth yn rheoli arno. Nid oes gelynion yn bod iddo. Nid oes arno eisiau cyfoeth na gwynfyd na bywyd; mewn gair, nid oes arno eisiau dim. Y mae pob dyn, o bob cenedl, yn gyfaill iddo; y mae Duw yn gyfaill iddo, a mwy, yn Dad iddo. Yr ychydig eiriau a lefarodd yr Iesu, maent yn agor y ffordd i bob dedwyddwch sydd yn ddichonadwy. Er hynny mae dynion yn sychedu am fwy o'i ymddiddanion, ac am fwy o wybodaeth am yr Iesu ei hun. Am dano Ef y maent yn meddwl wrth fyw ac wrth farw. Un peth sydd yn gwneud angau yn ddeniadol-gobaith cael gweled yr Iesu, a chlywed Ei lais, a gwybod y cwbl am dano. Y gobaith hwn sydd wedi arwain miloedd i aberthu eu bywyd pan oedd perffaith ddiogelwch yn bosibl iddynt. Y gobaith hwn, a dim arall, a ddaliodd i fyny y merthyron; ac yn ddiau maent hwy wedi cyrraedd uchelderau o wybodaeth sydd yn amhosibl i ni yn y bywyd hwn. Ond ar ein daear ni mae'n bosibl i'r hanes am dano ymledu. Yr oeddem yn arfer meddwl fod y cwbl ddywedodd yr Iesu yn hysbys i ni. Yr oeddem yn credu fod yr holl dystiolaeth yn ein llaw. Eto, ar ol deunaw can' mlynedd, yr ydym wedi cael tystiolaeth newydd, ac arwyddion fod mwy i ddyfod.