Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCHYDIG GRYBWYLLION AM FYWYD BOREUOL MR. HENRY RICHARD, A.S. Trwy garedigrwydd Mr. John Mathews, U.H., Amlwch, cefais yn ddiweddar y fraint o edrych trwy nifer o lythyrau a ysgrifenwyd at ei dad, Mr. John Mathews, Aberystwyth, gan Mr. Henry Richard, pan oedd o un ar bymtheg i bedair ar bymtheg oed. Ysgrifenwyd hwy yn yr iaith Saesneg; ac y mae yn syn gweled y feistrolaeth oedd gan eu hawdwr ar yr iaith honno yn y cyfnod boreuol hwnnw. Llythyrau bachgenaidd ydynt; ond daw "tad" y "dyn," er hynny, i'r golwg ynddynt. Yr un yn hanfodol oedd eu harddull ag arddull orffenedig a choeth "Apostol Heddwch" mewn blynyddoedd diwedd- arach. Dangosant fod ynddo yn ŵr ieuanc gryn ysfa farddonol; a'i fod hefyd ar adegau yn gogwyddo yn gryf at y digrifol. Ond yr hyn sydd o fwyaf o ddyddordeb yn y llythyrau i mi ydyw yr ychydig oleuni a deflir trwyddynt ar symudiadau a digwyddiadau y blynydd- oedd uchod ym mywyd Mr. Richard. Dichon y teimlai ambell ddar- llenydd ddyddordeb mwy mewn pethau eraill a gynwysir ynddynt. Er engraifft, y modd y dywedai yn un o honynt na byddai ganddo wrthwynebiad, pe gwelai eneth brydferth, i roddi cusan iddi. Y mae y paragraph yn werth ei ddyfynnu For my own part, I do not think that there is anything sin- ful in cherishing that feeling of hallowed attachment which exists between the two sexes. It is a feeling of the soul, an essential attribute of humanity; and I look upon the man that is destitute of this affection as a miracle, if we define that term as meaning anything existing contrary to the laws of nature. Should I be brought into contact with a beautiful girl, I should feel no hesitation, if I could over- come the shyness of my disposition, to bring her lips into coalescence with my own; nay, I always feel in the presence of a beautiful female a strong attraction to sip the nectar from her cheek, like the magnetic needle inclining toward the pole." Ganwyd Mr. Henry Richard ar y 3ydd o Ebrill, 1812. Fel y mae yn hysbys, ail fab y Parchedig Ebenezer Richard, Tregaron, ydoedd: y mab hynaf, Edward W., oedd y gwr a ddaeth yn adna- byddus wedi hynny fel Dr. Richard, Llundain. Ganwyd ef yn Awst, 1810. Yn y Cofiant a ysgrifenwyd ganddynt i'w tad, dywedir iddynt ill dau fyned i Gaerfyrddin "tua diwedd y flwyddyn 1826;" a dywedir ym mhellach iddynt aros yno "am ysbaid tair blynedd."