Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAFYDD AP GWILYM A MORFUDD. (RHIANGERDD). I. Yng nghwmni hen draddodiad Câr awen fyn'd am dro, Hyd lwybrau serch a chariad, Paradwys llawer bro Nid yw canrifau'n gallu Difodi'r hud a'r swyn Sydd ar y llwybrau gerddwyd Gan lawer deuddyn mwyn. Dyddorol gwel'd y croesau Roed ar y llwybrau hyn I atal llawer Gweno Wel'd ei hanwylyd gwyn Ond pwy erioed ataliodd Ymchwyddol lanw serch ? A phwy all roi terfynau I gariad mab a merch ? Pwy sydd i benderfynu Pwy bia galon mun ? Pwy sydd i benderfynu Os na wna hi ei hun ? Ond y mae ambell iiant Yn llawn 0 nwydau erch, Yn sarnu'n drwm â thraed o blwm Ar oesol hawliau serch. Ac felly Madog Lawgam A fynnai roi ei ferch I filwr hyf, yn lle i'r bardd, Oedd wedi myn'd a'i serch; Fel hyn rhwng cledd ac awen, Mae Morfudd, fwynaf fin Os rhwysg y cledd a gâr ei thad, Car hithau gywydd gwin." Mae croesaw yn y palas I'r milwr gwych ei wedd, A Madog wedi 'i swyno sydd Gan glodydd gwr y cledd Cauedig oedd y drysau Rhag yr awenydd clau, Ond gwyddai am y ddirgel ddôr Nas gallai neb ei chau. 'Roedd allwedd calon Morfudd Yn eiddo'r prydydd mwyn, A gwell na nef bod gydag ef, Yn llonwych dan y llwyn, Lle y mae serch a chariad Yn cael anadlu'n rhydd, Mêl· falm i fron-ofidiau Yw diliau deiliog wydd. II. Ar fin y Deifi deg Yn swn ei gwaneg wen, Mae Dafydd Gywydd Gwin Mewn cariad dros ei ben,