Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae ol tymor gwyliau yr haf i'w weled yn amlwg ar lenyddiaeth grefyddol y mis diweddaf. Methasom a gweled nemawr gwerth ei elfennu a'i ail-adrodd. Yn wir, yr unig destyn hynod mewn diwinyddiaeth a dyddor^l i'r diwinydd yw y llyfryn bach a gyhocddwyd gan Froude, Llundain, am swllt, yn cynnwys "Dy- wediadau yr Iesu." Fe gofia y darllennydd craff i ni alw sylw dro yn ol at destyn tebyg, gan ei al w yn Logia." Cyhoeddwyd ef gan yr un cyhoeddwyr a golygwyd ef gan yr un golygwyr, sef Grenfell a Hunt. Cynwysai gyfres o ddywediadau (logia) o eiddo'r Iesu, a ddargtnfyddwyd yn yr Aifft. Cynwysa Dywediadau yr Iesu gyfres newydd o'r un dosbarth, wedi eu darganfod gan yr un dau ymchwil- ydd, a'u cyhoeddi gyda nodiadau gan yr un cyhoeddwyr am yr un bris. Feallai fod y gyfres gyntaf yn dangos mwy o debygrwydd i iaith y T. N. na'r gyfres newydd hon. Yr un pryd fe berthyn i hon rai nodweddion hynod ddyddorol i efrydydd y T. N. Pwy bynnag ganodd yr hen bennill hwnnw,- Gad im' glywed swn dy eiriau," nis gall fethu teimlo cryn chwilfrydedd wrth ddarllen y dywediadau hyn o eiddo yr Iesu ag y cadd yr eglwys foreuol lawer gwledd wrth eu hail-adrodd os nad hefyd eu trafod. Da fuasai gennyf allu eu cyhoeddi yn yr iaith yr ysgrifenwyd hwynt ynddi; eithr ofnaf dresbasu ar amynedd yr argraffydd Cymreig am nad oes ganddo ddigonedd o lythrennau Groeg wrth law. Am hynny, gofynnaf i'r darllen- ydd Cymreig foddloni ar gyfieithiad i. Cywir eiriau yr Iesu yw y rhai hyn, y rhai a lefarodd yr Hwn sydd fyw ac a fu farw, wrth Judas Thomas. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho Pwy bynnag a wrandawo ar y'geiriau hyn, nis profa farwolaeth o gwbl." 2. "Medd yr Iesu "Yrhwnsy'n ceisio y Tad, na phalledhydnesycan- fyddo a pha bryd bynnag y canfyddo, bydded iddo synnu; ac wedi synnu, efe a fydd frenin a thra yn frenin, efe a orffwysa." 3. Medd yr Iesu Pwy yw y rhai sy'n eich tynnu chwi i'r deyrnas ? Yn y nefoedd y mae y deyrnas; eithr pobl ar y ddaear, ac adar y nefoedd, a phob creadur dan y ddaear ac yn Hades, a physgod y mor,-y rhai hyn yw y rhai sydd yn eich tynnu chwi. Ac o'ch mewn chwi y mae teyrnas nefoedd a phwy bynnag adnabyddo ei hun, a geniydd Hwn. Canys os cywir adnahyddwch eich hunain, chwi a fyddwch yn feibion a merched i'r Tad, yr Hollalluog, ac a wyddoch eich bod eich hunain o fewn y ddinas a chwychwi yw y ddinas." 4. Medd yr Iesu Dyn ni phetrusa o gwbl ymhyfhau i chwilio i mewn i hanes yr amserau, gan ymdrin ynghylch y lle gogoneddus megis un yn siarad gwegi. Eithr chwychwi, byddwch ddistaw, oblegid llawer o'r rhai blaenaf a fyddant olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf ac ychydig a'i meddiannant hi." 5. Medd yr Iesu: "Datguddir popeth sydd heb fod o flaen dy lygaid ac yn guddiedig oddiwrthyt. Canys nid oes dim cuddiedig ar nas gwneir yn amlwg, na chladdedig ar nas cyfodir i fyny." 6. Hola ei ddisgyblion ef a dywedant: "Pa fodd yr ymprydiwn ? a pha fodd y gweddiwn? a pha fodd y gwnawn elusen? a pha ddyledswyddau o'r fath a gyflawnwn ? Medd yr Iesu: "Edrychwch na chollwch eich gwobr. Na wnewch unpeth ond a berthyn i'r gwirionedd. Canys os hyn a wnewch, chwi a gewch wybod dystiolaeth guddiedig. Meddaf i chwi, gwyn fyd y gwr i