Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. SYLWADAU AR EFRYDIAETH HANESYDDOL O'R TESTAMENT NEWYDD. YN y sylwadau presennol ni fwriedir ymdrin yn fanwl a chyflawn âg unrhyw agwedd neillduol ar efrydiaeth y Testament Newydd, ond yn unig awgrymu rhai cyfeiriadau mewn astudiaeth a allent roddi symbyliad newydd i ymchwiliadau rhai o'n myfyrwyr duwinyddol. Mae yn achos llawenydd dirfawr i holl garedigion crefydd ac addysg yng Nghymru weled gwaith mor drwyadl yn cael ei wneuthur yn y Colegau Duwinyddol mewn paratoi gogyfer âg arholiadau y Brifysgol i Gymru ac arholiadau pwysig eraill, ac un o'r arwyddion goreu a welir ar waith myfyrwyr yn yr arholiadau hyn ydyw y dyddordeb byw ac effro a ddanghosant ran amlaf yn eu gwaith. Dymuniad awdwr yr ychydig sylwadau hyn ydyw cynorthwyo i gadw yn fyw y dyddordeb a nodwyd. Mae pob meddyliwr ac efrydydd sydd yn fyw heddyw wedi dyfod, yn ymwybodol neu yn anymwybodol, dan ddylanwad rhai o dueddiadau meddyliol amlycaf yr oes y mae yn byw ynddi. Prif duedd meddwl Ewrop, beth bynnag er dechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ydyw y duedd at ddadansoddi pob gwrthrych a ddygir i'w sylw. Nid mewn gwyddoniaeth naturiol yn unig y ceir y duedd hon, ond mewn ieithyddiaeth, mewn hanesiaeth, mewn llenyddiaeth, ie, mewn athroniaeth a duwinyddiaeth hefyd. Ni dderbynir unrhyw ffeithiau yn eu cysylltiadau amlwg, arwynebol, ond ceisir eu dadansoddi, yn y gred y gellir eu hail-drefnu fel ag i ddangos eu cysylltiadau a'u perthynasau yn gywirach. Yn aml cymer y dadansoddi hwn le, ond gohirir yr ail-drefnu a'r ail-gyfanu i amser amhenodol. Wedi i'r duedd at ddadansoddi gymeryd gafael ar feddyliau dynion, mae wedi ehangu ei therfynau i bob cyfeiriad, fel na fyn adael i ddim ddianc o'i chrafangau. Mewn duwinyddiaeth gwelir y duedd hon gryfaf yn ein dyddiau ni ymhlith yr Ellmynwyr a'r Is-Ellmynwyr, ond ceir rhai engreifftiau nodedig iawn ohoni ym Mhrydain. Hyd yn hyn nid oes llawer o ôl y duedd hon ar feddwl Cymru, ond ni fyddai yn syn gennym ei gweled yn cynyddu cryn lawer yma hefyd. Dichon ma da fyddai gweled ysbryd ymchwiliad rhesymol a chymedrol yn ym