Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSGRYTHYRAU A BEIRNIADAETH. II. Y mae canmlwyddiant y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor wedi bod yn achlysur i ddywedyd ac i feddwl llawer am y lle sydd i'r Ysgrythyrau Sanctaidd ym mywyd yr Eglwys Gristionogol. Un peth, ond odid, sydd wedi ei ddwyn o newydd i amlygrwydd ar yr achlysur hwn ydyw y cyfnewidiad mawr-o gydmaru yr amser presennol â dyddiau ein tadau-sydd wedi cymeryd Ile yn syniadau dynion o berthynas i'r Beibl. Os cydmerir dechreu y ganrif bresen- nol â dechreu y ganrif ddiweddaf, gwelir dulliau newyddion o astudio y Beibl mewn bri erbyn hyn. Y mae llawer o'r gosodiadau a gredid yn ddibetrus gan y tadau gyda golwg ar awduriaeth ac amseriad a chyfansoddiad llyfrau y Beibl, a chwrs y Datguddiad dwyfol a gyn- nwysir ynddynt, erbyn hyn yn amheus, os nad yn hollol wrthodedig, yngolwg llawer hyd yn oed o bobl grefyddol. Nid ydyw y cwestiynau a'r amheuon hyn, ychwaith, yn gyfyngedig i ychydig o ddysgedigion. Y maent wedi eu lledaenu yn eang, ac wedi cael dylanwad dwfn a distaw ar feddyliau y lliaws. Mewn canlyniad, nid ydyw syniadau dynion am werth ac awdurdod y Beibl mor gadarn a chlir ag yr ar- ferent fod. I rai, y mae yn ddiau, y mae y cyfnewidiad hwn yn un y teimlir mesur o foddhad dirgel o'i herwydd. Y maent hwy fel rhai y symudwyd yr iau oddiar eu gwarrau. Da ganddynt gaellle i dyb- ied nad oes raid iddynt bellach dalu cymaint o sylw ag y mynnai yr hen bobl iddynt ei dalu i ymadroddion y Beibl. Prysurant i'r casgl- iad nad ydyw awdurdod ei orchymynion nac ofnadwyaeth ei fygyth- ion uwchlaw amheuaeth, a theimlant lai o anesmwythdra mewn anufudd-dod a llai o arswyd yn y rhagolwg ar y dyfodol. I eraill, ar y llaw arall, mater o betrusder a thristwch ydyw yr amheuaeth a deflir mewn rhai cylchoedd ar awdurdod yr Ysgrythyrau. Nis gall- ant ateb y gwrth-ddadleuon y mae beirniadaeth yn eu dwyn i sylw, ac yn wir nis gallant wadu rhesymoldeb yr egwyddorion y gweith- reda beirniadaeth arnynt; ac eto nis gallant lai na theimlo mai ymosodiadau ydynt ar y ffydd. Pa fodd yr ydym i synied ac i ymddwyn yngwyneb y dulliau newyddion hyn o ymdrin â'r Ysgrythyrau ? Pel y ceisiwyd dangos mewn ysgrif flaenorol ar y mater hwn, hawdd ydyw canfod afresym- oldeb rhai o'r golygiadau a goleddir ar feirniadaeth mewn perthynas â'r Beibl. Anhawdd iawn, ar y llaw arall, ydyw penderfynu pa fath y dylai ein hagwedd ar y cwestiwn fod. Y mae yn amlwg, ar y naill Gwel TRAETHODYDD igoi, t. 241.