Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dylanwad yr Arglwydd Iesu ar wareiddiad y byd, a'i frenhiniaeth ddigymar Ef ar eneidiau dynion, yn gyfryw fel nas gellir eu hanwy- byddu. Beth bynnag fydd cwrs a thuedd beirniadaeth yn y dyfodol, bydd yn rhaid i'w chasgliadau fod yn gyson â'r ffeithiau hyn; ac y mae yr angenrheidrwydd hwn yn codi, nid o'r hyn y mae ffydd yn ei ofyn, ond o natur beirniadaeth ei hunan. Y mae yn ddiau fod beirn- iadaeth yn dwyn gwedd ymosodol a dinistriol; ond gellir bod yn gwbl hyderus fod ei hegwyddorion hanfodol (y rhai sydd yn rhwym o'i llywodraethu, er i feirniaid yn fynych eu hanwybyddu a'u troseddu) yn gyfryw fel nas gall ei chasgliadau fod yn groes i'r profiad hwnnw o bethau ysbrydol y mae hanes yn dangos ei fod yn rhan hanfodol o fywyd y ddynoliaeth. Porthaethwy. JOHN OWEN THOMAS. DANIEL OWEN. Sylwa De Quincey fod dau ddosbarth o lenyddiaeth, sef llenydd- iaeth gwybodaeth a llenyddiaeth nerth. Amcan pennaf y cyntaf ydyw cyfrannu gwybodaeth am ffeithiau ac egwyddorion. Mae y llyfrau a wnant i fyny y dosbarth hwn yn newid yn barhaus, am fod gwybodaeth yn cynyddu ac yn ymberffeithio. Rhaid wrth argraff- iadau newyddion, gyda chywiriadau ac ychwanegiadau, o Eiriaduron a Gwyddoniaduron i genhedlaeth ar ol cenedlaeth. Ond y mae y dosbarth arall yn aros, heb angen cyfnewidiad mewn cynnwys na ffurf. I'r dosbarth hwh y perthyn chwedloniaeth. Gwir fod ffug- chwedlau poblogaidd, fel eiddo Syr Walter Scott, i raddau helaeth yn hanesyddol, ac ambell un yn ddaearyddol hefyd; er hynny, nid amcan eu cyfansoddiad a'u cyhoeddiad ydoedd cyfrannu gwybod- aeth am ddigwyddiadau na lleoedd. Amcan pob nofel deilwng ydyw gweinyddu mwynhad pur i'r darllenydd, a'i symbylu i ddilyn buchedd anrhydeddus. Ac nid yw yn ormod dyweyd fod gweithiau rhai o'r prif nofelwyr wedi gwneud mwy dros ddeddfwriaeth ddyngarol nag areithiau ser disgleiriaf y Senedd, a mwy dros rinwedd a chrefydd nag a allodd cedyrn pennaf y pulpud ei gyflawni drwy eu llafur gweinidogaethol. Gellir ystyried llafur amryw seneddwyr a phre- gethwyr blaenaf y deyrnas yn y cyfeiriad hwn yn addefiad ymarferol o hynny.