Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ieithol geir yn Rhys Lewis, un o'r penodau hynotaf o'i fewn. Trafferthus a fu dy fywyd; ar rai adegau yr oeddit yn wir dlawd, ond danghosai y dyrfa ddaeth i dy gynhebrwng fod rhywrai eraill heblaw fi yn gweled rhywbeth yn dy gymeriad gwerth ei edmygu. Nid rhyfedd i Carlyle ddywedyd; Sublimer in this world know I n -thing than a peasant saint.' Tra y mae gweithiau Daniel Owen yn dangos llawer o'i athrylith, ac yn arwydd o'i dalent, yr oedd efe ei hun yn fwy nag un o'i lyfrau ac na'r oll gyda'u gilydd. Y mae Cymru dan ddyled drom iddo am un o'r cymwynasau pennaf a dderbyniodd,darlun byw a dyddorol o'i bywyd mewn cyfnod sydd bellach wedi myned heibio braidd yn llwyr. Oherwydd natur ac ansawdd ei waith bydd Cymru Fydd dan ddyled drymach drachefn iddo. Bydd nofelwyr Cymreig y dyfodol yn dyfod at ei gof-golofn i'r Wyddgrug i dalu gwarogaeth ddiffuant iddo, ac yn myned at ei weithiau i dderbyn calondid ac ysbrydiaeth i gyflawni gwaith cyffelyb a rhagorach. Gwel y dyfodol fwy o ragoriaethau yn ei weithiau, a gwel hwynt yn gliriach nag y gallwn ni eu gweled heddyw. Nid yw gwreiddiolder yn ymwybodol oluno ei hun nid yw y genhedlaeth bresennol o Gymry, ac nid oedd Daniel Owen ei hun, yn sylweddoli yn llawn holl ystyr yr hyn a ysgrifennai. Dadguddir yn ol llaw gyfoeth yn ei weithiau nad oes neb eto wedi llwyddo i'w darganfod. Y mae digon o nerth yn ei athrylith, ac o rym yn ei ddaioni, iddo adgynyrchu ei hun mewn ys- grifenwyr ydynt eto, o bosibl, heb eu geni. Safodd yn gadarn dros yr ansoddau moesol uchaf, dywedai yr hyn a gredai oedd wirionedd, a gobeithiai yn Nuw ac ni bydd treigliad amser yn peri i lawer o'r gemau sydd yn ei weithiau golli dim o'u gloywder. Towyn, Meirionydd. T. R. JONES. PROFF. PAULSEN AR KANT. Bu'm yn ddiweddar yn darllen y gwaith hwn, a chefais ef yn un o'r gweithiau egluraf ar Kant a'i athroniaeth o'r un a ddarllenais erioed. Gwyr y rhai sydd yn gwybod dim am Kant mai tywyllwch y fagddu yw ei waith i bawb; ie, hyd yn oed i'r galluog ei feddwl fel y cyffredin, yn enwedig ar y dechreu. Mewn gwirionedd y mae meddylwyr galluocaf y byd heddyw yn gwahaniaethu am ei wir ystyr mewn llawer rhan ohono, ac hyd yn oed am ystyr yr oll ohono. Ond er ei dywyllwch, nid oes yr un gwaith, yn ddiameu, wedi ei gyhoeddi erioed, gydag eithrio y Beibl ynghyd a gweithiau Plato ac Aristotle,