Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYWYD CRIST MEWN ARLUNIAETH. II. ARLUNIAETH BYZANTAIDD, A.D. 500-1200. Nis gellir nodi amseriad manwl i'r cyfnod hwn. Cymer* yr enw oddiwrth Byzantium, prif ddinas yr ymerodraeth ddwyreiniol o'r bumed ganrif ymlaen. Mewn llawer o bethau anhawdd yw gwahan- iaethu rhwng arluniaeth Byzantaidd ag eiddo arluniaeth ddiwedd- arach y gorllewin. Noddwyd celfyddyd dan deyrnasiad Justinian, a chan yr eglwys. Yr oedd nerth celfyddyd Byzantaidd yn gorwedd yn ei hymlyniad wrth y traddodiadau clasurol a ysbrydolodd arlun- wyr cyntefig y catacombs, yr hwn, mewn amser, a ddygodd yn ol arlunwyr y renaissance i naturioldeb cywir yn gystal ag i ddrych- feddyliau aruchel. Gwelir gwendid y cyfnod hwn mewn diffyg hollol o wreiddioldeb a chynnydd, ac achosid hyn i raddau gan orthrwm eglwysig, mewn ymerodraeth ym mha un yr oedd llenyddiaeth yn farw, a rhyddid eto heb gael breuddwydio am dano. Cynyrchwyd cyfnewidiad pwysig yn hanes celfyddyd gan gynghor Caercystenyn, 691. Yn 01 canon 82 o'r cynghor hwn penderfynwyd o hyn allan fod Crist i'w baentio a'i arddangos yn gyhoeddus ar ddull dyn, ac nid fel oen. Ar ol cyfiawnhau prydferthwch yr hen arwyddlun fel yn arddangos Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau y byd," mae y Tadau ymgynulledig yn ordeinio o hyn allan fod y darlun i gymeryd lle yr arwyddlun, fel y byddai iddynt gael eu harwain i gofio ymarweddiad Crist yn y cnawd, ei ddioddefaint, ei farwolaeth iawnol, a'r prynedig- aeth a wnaeth Efe tros y byd. Yr un amser, ac am yr un rheswm, gwaharddant baentio yr Ysbryd Glân fel colomen, a'r doethion o dan arwyddlun y seren. Dengys y penderfyniad hwn newidiad deublyg o'r hen deimladau. Noda ddiflaniad terfynol yr hybwylledd a deimlai yr hen arlunwyr wrth arlunio agwedd bersonol Crist, ac ar yr un pryd arwydda fod dioddefiadau Crist yn y cnawd, bellach, yn btiodol faterion arluniaeth, er bod Cristionogion y canrifoedd cynt yn eu hystyried yn rhy gysegredig. Yn llythyr enwog y Pab Gregory II., 729, dywed fod gwahanol olygfeydd o ddioddefaint Crist yn bynciau teilwng i'w harddangos ar furiau yr eglwysi. Hyd yn hyn yr oedd y teimlad henafol goreu, Gwel Draethodydd Mawrth, 1903, t. 111.