Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bellach yr ydym yn terfynu. Wrth gofio sefyllfa y wlad yr adeg honno, mor anaml oedd y cyfleusderau, mor brin oedd nifer y gweith- wyr cymdeithasol a chrefyddol, ac wrth ystyried gymaint o waith a gyflawnodd y dyn hwn-gwaith mor amrywiol ynglyn â phregethu Efengyl y deyrnas, ynglyn â cychwyn symudiadau pwysig, ac fel cyfarwyddwr i bersonau ac eglwysi mewn anhawsderau, ac hefyd ynglyn â'r wasg ac â llenyddiaeth, &c.,­gorfodir ni i gredu mai prin iawn y mae bywyd a gwasanaeth y Parchedig John Parry, Caer, wedi cael ei gydnabod yn briodol eto gan ei gyfundeb, a chan ei wlad. Colwyn Bay. T. M. JONES (Gwenallt). COFRIFIAD IEITHYDDOL CYMRU, 1901. Ar y cyntaf o Orffennaf diweddaf y cwblhaodd y Cofrestrydd Cyffredinol a'i gynorthwywyr eu hadroddiad o'r cofrifiad iiweddaf, yr hon a wnaed Ebrill, 1901. Y mae'r adroddiad terfynol yn awr wedi ei gyhoeddi, a chynwysa ffeithiau lawer o'r dyddordeb a'r gwerth mwyaf i bawb sydd am astudio sefyllfa y deyrnas, ei gwa- hanol rannau, a'i thrigolion. I ni y ffeithiau mwyaf dyddorol a gyn- wysir ynddo ydyw y rhai sydd wedi eu casglu gyda golwg ar sefyllfa ieithyddol Cymru adeg y cofrifiad. Y mae y ffeithiau hyn nid yn unig yn ddyddorol ond yn bwysig, ac yn haeddu ystyriaeth oreu arweinwyr ein cenedl, yn addysgol, yn wleidyddol, ac yn grefyddol. Amcanwn yn yr ysgrif bresennol yn unig osod y ffeithiau gerbron darllenwyr Y TRAETHODYDD fel y ceir hwy yn y gwahanol gyfrolau sydd wedi eu cyhoeddi gan y Llywodraeth. Fe gofir fod y tafleni a wasgarwyd yng Nghymru a Mynwy ynglyn â'r cofrifiad yn cynnwys colofn iaith," a gofynnid am i'r golofn honno gael ei llanw i fyny gyda golwg ar bob un oedd yn dair blwydd oed ac uchod adeg y cofrifiad. Yr oedd colofn gyffelyb yn nhafleni cofrifiad 1891, gyda hyn o wahaniaeth, nad oedd un cyf- yngiad ar oedran yn 'y golofn yn 1891. Y rheswm a rydd y Cofrestrydd Cyffredinol dros y cyfyngiad ydyw y tybiwyd fod gormod o duedd i'w weled yn nhafleni 1891 i ddodi i lawr "fabanod" nad oeddynt eto yn siarad o gwbl fel yn defnyddio yr iaith Gymraeg, ac eraill nad oeddynt mewn oedran i feddu unrhyw iaith fel yn abl i siarad Cymraeg a Saesneg. Mae'n bosibl fod sail i'r dybiaeth, ond y tebyg yw mai nid Cymry Cymru yn unig oedd yn euog o ddweyd am faban tri mis oed mai ei iaith oedd iaith ei fam." Nid hawdd penderfynu pa mor ieuanc y mae y baban yn dod i ddeall a meddu