Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PARCH. JOHN MOSES JONES, DINAS. GANWYD John Moses Jones, neu John Moses, fel y gelwid ef gan werin bobl Lleyn, ym mis Mawrth, 1822, mewn Beudy" perthynol 1 Fferm yng Nghwmwd Eifionydd a elwir Gaerwen, am y rheswm nad ydoedd y ty bwriadedig i'r teulu eto yn barod. Dywedai mewn ymffrost ei fod wedi ei eni yn llety yr anifail fel ei Waredwr. Ei rieni oedd Moses a Hannah Jones. Yr oedd ei fam yn gyfneithr i'r seraff bregethwr Michael Roberts, yn wraig ddarbodus a rhinweddol, ac yn un tu yn itwalid ac yn orweddiog am y rhan helaethaf o'i hoes briodasol. Yr oedd Moses Jones yn weinidog poblogaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn ŵr pert, ffraeth, a dawnus, ac yn anwyl gan bawb. Fel y canlyn yr ysgrifenna Mr J. H. Davies, Cae'rtyddyn, Llangybi, am dano:- "Nid oes yng nghymydogaeth Pencaenewydd heddyw ond ychydig sydd yn cofio y nesaf peth i ddim am y Parch. Moses Jones. Mae yr ychydig oedd yn blant y pryd hwnnw erbyn hyn wedi cyrraedd gwth o oedran, ac y mae enw Moses Jones yn bersain yn eu clustiau pan y crybwyllir ef yn yr adgof am y dylanwad daionus oedd ganddo ar feddyliau eu tadau a'u mamau pan yn cyd-drigiannu âg ef yn yr un gymydogaeth, fel pregethwr, cymydog, a chyfaill. Teimlid serchowgrydd teuluaidd tuag ato fel pe buasai yn aelod o bob teulu yn yr ardal, er nad oedd yn perthyn dafn o waed i'r un o'r teuluoedd a drigiannai yn y gymydogaeth. Yr oedd rhyw swyn arbennig yn ei berson a'i gyfeillach nes peri i bawb fod yn hoff o hono, fel y galwai amryw o deuluoedd eu plant ar ei enw." Ganwyd i'r cwpl hyn hiliogaeth yn rhifo pedwar ar ddeg o blant, yn gymysg o feibion a merched-digon o rif i gadw Ysgol Sul. Bu Mary, yr hon oedd yn meddu cryn lawer o ddawn ac arabedd ei thad, yn wraig i John Isaac Roberts, yr hwn oedd yn gywrain a chyfarwydd feddyg anifeiliaid, ac hefyd yn flaenor dylanwadol yn yr Ysgoldy. Priododd chwaer arall y Parch. Evan Hughes, Dinas, gwr caredig a boneddigaidd, a phregethwr coeth a detholedig, yr hwn a fawr werthfawrogid gan y dosbarth goreu o wrandawyr. Y chwaer Catherine oedd wraig i Capten Robert Davies, yr hon oedd yn gymeradwy iawn gan ei holl gydnabod, ac a adawodd ar ei hol un ferch, yr hon sydd eto yn fyw, sef Mrs. Davies, Caertyddyn. Hi ydyw yr unig un o'r teulu sydd yn aros ar hyn o bryd, ym Mhencae- newydd. Bu iddynt fab o'r enw Moses, yr hwn, yn fuan wedi dechreu pregethu yma, a ymfudodd i Awstralia, lle y bu farw. Mae John, gwrthddrych ein hysgrif ni, hefyd wedi ehedeg ymaith erbyn