Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Moses Jones yn rhoddi y cynghor iddynt. Dyma fel y dywedai: Yr ydach chi wedi galw arna' i roi cyngor i'r bobol yma. Ni wn pa un ai rhoi cyngor idd'n nhw a wnaf, ynta eu rhegu. Dynion mawr cryfion fel hyn, wrth edrych arn'n nhw gallsech dybied eu bod yn ddigon cadarn a gwrol i fentro tarw gwyllt mewn ring, yn sisial siarad mor isel wrth ddweyd eu profiadau fel nad oedd modd clywed yr un gair oedden nhw yn ddweyd- does gin i yr un cyngor i'w roi i chwi, ond meddyliwch am y pethau a ddeudodd y brawd arall wrthych, y mae ef yn hen flaenor profiadol." Fel y mae y nos yn dilyn y dydd hwyaf yn yr haf, fel y dydd byrraf yn y gauaf, felly daeth y nos yn derfyn i'w hir-ddydd a'i oes faith yntau. Bu farw yn yr oedran aeddfed o 82 o flynyddoedd. Ni bu ei gystudd yn hir, er yn boenus. Pethau ei fywyd oedd pethau mawr ei ddyddiau olaf a'i angau, The ruling passion strong in death. Dychmygai a phortreadai ei hun mewn cyfarfod ysgol, yr hwn oedd i'w gynnal y Saboth dilynol ym Manceinion, pryd yr elai drwy holl ffurf y gwasanaeth mewn darllen, gweddio, canu, a holi. Dyma'r pennill a roddai allan, ac a ganai:- Mae dy ysbryd Di yn fywyd, Mae dy ysbryd Di yn dân. Fe sy'n dwyn yr holl ôorddolion Cywir, sanctaidd, pur, ymlaen. Cyfarwyddwr pererinion, Arwain fi." Bu farw mewn tangnefedd heddychol, o dan arweiniad Cyfar- wyddwr y pererinion, a'i bwys ar ei anwylyd, ac aeth i'r bedd yn addfed, fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser. Claddwyd ef gan dyrfa o wyr bucheddol yn meddrod y teulu yn Machpelah capel y Dinas. Pwllheli. JOHN JONES.