Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU LLENYDDOL A DUWINYDDOL. Nid yn aml y ceir llyfr gan wyddonwr ar dduwinyddiaeth, mwy na llyfr ar wyddoniaeth gan dduwinydd. Fel rheol, ac yn gymwys, ceidw y naill a'r llall at ei faes ei hun; ac etyb pob call a doeth mai dyna sydd yn ei le. Yr un pryd fe wyddis y gall tiriogaeth gyfreithlon y naill derfynu ar eiddo y llall; ac, feallai, o bob mater, mater y terfynau eilw am fwyaf o amser a mwyaf o ras i'w benderfynu. O leiaf, fe wyr yr efrydydd mai terfynau gwyddoniaeth a duwinyddiaeth a ffurfia fwyaf o destyn dadl yn y dyddiau hyn, ac mai gwyddonwyr gwirioneddol neu dybiedig a ddechreuodd yr ymosodiad diweddaraf ar dduwinyddiaeth y Cristion. Cyfeiriwyd yn fynych at hyn yn ein Nodiadau blaenorol, ac nis gallwn y tro hwn eto fyned heibio heb gyfeirio at un ffaith neu gyfrol ar y pwnc-a hynny oherwydd rheswm arbennig. Yn gyntaf oll, un o brif wyddonwyr yr oes hon a'i hysgrifennodd, sef Proff. Henslow o Gaergrawnt. Yn ail, ateb gwrthddadleuon gwyddonwyr yn erbyn duwinyddiaeth yw ei phrif amcan neu, yn hytrach, dangos i'r cyffredin darllengar pa beth a ddysgir gan wyddoniaeth, gan gyfeirio yn arbennig at yr oll a ddysgodd Darwin, yng nghyda'i werth gwyddonol presennol. Gwna hyn mewn cyfrol a gyhoeddwyd gan Hodder and Stoughton, Llundain, am 7s. 6ch., ac o dan yr enw "Present-Day Rationalism Critically Examined (Ymchwiliad beirniadol i Ddysgeid- iaeth Rhesymoliaeth y Dyddiau Presennol). Cynwysa ddwy ran — Testyn y rhan gyntaf yw Natur; a'r ail, Dyn. Hefyd ychwanegir Olnodiad at y rhan gyntaf, yn yr hwn y rhoddir brasolwg ar holl ddysgeidiaeth Darwin-ei diffygion a'i rhagoriaethau. Gallai yr efrydydd cyffredin deimlo fod y llyfr hwn wedi ei ysgrifennu ar dipyn o frys, ac nid hawdd yn fynych yw cael gafael sicr yn yr hyn á ddywed yr awdwr. Er hynny, y mae mor syml fel mai prin y gellir dweyd y rhaid wrth esboniad, 0 leiaf ar brif bwyntiau y gyfrol. Ambell i dro, aiff yr awdwr ymhellach i dir gwyddoniaeth nag y gall y duwinydd ei ddilyn. Eto, .wrth roddi y rheswm tros y gosodiad a wneir y digwydd hynny. Ar y cyfan, fe raid cydnabod mai tra anawdd fyddai cael un gyfrol o'r dosparth hwn wedi ei hysgrifennu ar gyfer yr efrydydd cyffredin ag sydd yn cynnwys cymaint o wybod. aeth glir am yr hyn a ddysgir gan wyddoniaeth y dyddiau presennol ar y pynciau geir ar y terfyn rhwng gwyddoniaeth a duwinyddiaeth. O leiaf, dengys yn glir pa mor bell yr arweinir rheswm dyn gan wyddoniaeth, a pha mor anwyddonol ac anghywir yw tybiaethau ac ymosodiadau y rhesymolwyr Yn fyr pa bryd bynnag y try y gwyddonwr i ymosod ar Gristionogaeth, yn fynych iawn bradycha ei wyddoniaeth ei hun o ran egwyddor a ffaith. Yn y rhan gyntaf o'r llyfr ceir deuddeg pennod-yr oll yn fyr a chynhwysfawr, gan gynnwys elfeniad cryno o brif osodiadau yr ymosodwyr, yng nghyda beirniadaeth ac ateb Henslow. Yn y bennod gyntaf a'r ail danghosir o lenyddiaeth y Deculaniaid pa beth fu honiadau Sectariaeth gyntaf ac yn yr ail, pa beth yw honiadau Sectariaeth bresennol. Daw yn eglur wendidau y naill a'r llall yn ol eu geiriau hwy eu hunain. Yn y drydedd bennod, fe'n hys- bysir fod Rhesymoliaeth y dyddiau presennol yn honni mai Darwiniaeth yw ei sail wyddonol. Parodd hyn i'r awdwr roddi atodiad i'r rhan gyntaf hwn. Yn yr atodiad rhoddir byr grynodeb o, a beirniadaeth ar, ddysgeidiaeth Darwin,­y