Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wneir o ffug-esboniad Darwin gan ymosodwyr ar dduwinyddiaeth yn y dyddiau hyn. Haeckel yw y gwr a ystyrrir yn arweinydd gan yr ymosodwyr; a rhydd Henslow y bumed bennod yn y rhan gyntaf i ymdrin âg esboniad Haeckel. Y prif gwestiwn yw pa fodd y daeth bywyd i fod ? Etyb Haeckel: trwy hunan- genhedliad (autogony) Arfer anffyddwyr yw ymresymu felly yn erbyn credinwyr os oes Duw yn bod, yna fe raid fod hefyd ryw achos i fodolaeth Duw Yn y modd hwn y tybiant hwy ddangos gwendid duwinyddiaeth; ac yn yr un modd gellir eu hateb hwythau. Nis gall meddwl dyn ddirnad y fath beth a hunan- genhedliad ac eto, dyma un o wyddonwyr pennaf y byd yn ddigon ehud ac anffyddlon i synwyr cyffredin yn ogystal a gwyddoniaeth fel ag i dybio yr hy n sydd gwbl groes i bob egwyddor wyddonol, gan osod y fath dybiaeth yn safon pob ymresymiad dilynol Ac eto Haeckel yw "pab anffaeledig yr anffyddwyr ag sydd yn rhoddi eu holl nerth a'u gallu i ddinystrio crefydd Nis rhaid dweyd ychwaneg am Haeckel a'i deulu. Troer at ddosbarth arall o wyddonwyr. Dalier sylw ar un addefiad cyffredinol o'r eiddynt. Pa un bynnag ai Tyndall, H. Spencer, ai Huxley, credant a dysgant y rhaid fod o'r tu ol i Natur ryw allu uwchlaw Natur: Mae'r achos mawr tu ol, Effeithiau ydynt hwy." Addefiad gwyddonwyr yw hwn, a gall y Cristion hyd yma gytuno â hwy. Yr unig gwestiwn a erys yw a raid i feddwl dyn sefyll gyda'r addefiad hwn ? A oes gan wyddoniaeth ryw reol all helpu dyn ymhellach ? Fe berthyn i synwyr cyffredin ryw ben air felly yn iaith y Rhufeiniaid ex nihilo, nihilfit (allan o ddim, ddaw dim). Gallai y diweddar Mynyddog gyda'i ffraethineb ei hun ddatgan yr un gwir mewn dwy linell a ystyrrir erbyn hyn yn ddiareb Os cregin gwag sydd yn y sach, Cregin ddaw allan, bobol bach." Gwirionedd hanfodol pob synwyr cyffredin yw hwnnw: mae achos i bob effaith. Nid rhyfedd, ynte, gydnabod o'r gwyddonwyr fod rhyw allu anfesurol o'r tu ol i natur. Ac y mae natur ei hun yn datguddio rhyw nodweddion neu agweddau yn hanes y gallu hwnnw. Pe na buasai dyn yn ymwybodol ohono ei hun, nis gallai feddu un syniad am neb arall yn meddu ymwybyddiaeth. Nis gallwn ni syniad am darddiad bywyd ond fel canlyniad neu gynnyrch bywyd. Bywyd sy'n cenhedlu bywyd ac o ymwybyddiaeth y naill y tardd ymwybyddiaeth y llall. Fe raid y perthyn ymwybyddiaeth i'r achos cyn y gallo berthyn i'r effaith. Gan hynny, fe gyd-dystia gwyddoniaeth â synwyr cyffredin cyn belled a hyn Y mae y tebygrwydd fod y "Gallu mawr" tu ol yn feddiannol ar ymwybyddiaeth yn ganmil cryfach a chadarnach nag y tybia Haeckel. Nis gall un dyn wadu hyn. Ac nid dyna'r oll. Wedi cael gallu bywydol o'r tu ol, fe arweinir meddwl dyn i weled a chydnabod y rhaid i'r gallu bywydol hwn, os yn meddu ymwybydd. iaeth, feddu hefyd reswm cyfatebol. Dengys Natur ymhob rhan ohoni drefniad mor berffaith nas gall fod yn gynnyrch unpeth amgen na pherffaith reswm. Gyda dyn, ei reswm sydd yn rhoddi trefn ar bob peth. Dengys y ser- yddwr drefn datblygiad y gyfundrefn heulog; a'r gwyddonwr, eiddo'r ŷroto-ŷlasm. Fe dystia synwyr cyffredin mai meddwl dyn sy'n gwneud trefn ar bob peth er mwyn cyfarfod âg anghenion y byd. Lle bynnag y gwelir trefn, yno hefyd y gwelir 61 meddwl rhesymol yn gweithio yn a thrwy y cwbl. Ac fe welir y fath