Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

man. Nid mater yw, yn yr ystyr gyffredin o leiaf. Ac ni wyddis am ddim mewn natur a'n cynorthwya i feddu syniad ymarferol cywirach am allu ysbrydol diderfyn Duw ei hun. Pa un a foddlona y syniad hwn dduwinyddion ai peidio, nis gwyddom. Cyffeswn, o un ochr, ei fod yn peri i ni deimlo hollbresenoldeb Duw yn rhywbeth hynod real. A chyda llawer o hyfrydwch y darllenwn eiriau Henslow am dano yn y cysylltiad hwn. Iddo ef gwna rai ymadroddion Ysgrythyrol yn dra byw. Gellir rhoddi esboniad anianyddol yn ogystal ag ysbrydol ar ymadroddion tebyg i'r rhai hynny: "triga Duw gyda'r gostyngedig o galon "ni a wnawn ein trigfa gydag ef." Pan yn gweddïo yn y dirgel ac yn ddistaw, yn ymarferol ni a dybiwn hyn, gan gwbl gredu y cynorthwyir ni gan yr Ysbryd, Our souls must vibrate in unison with God, and response comes as truly as when a note struck on a violin causes the same to sound in a distant piano." Ychwanega Henson sylwadau pellach i'r un cyfeiriad; ac ymddengys yn dra phryderus rhag na fyddo neb yn cael lle i awgrymu mai tipyn o farddoniaeth dychymyg y sant yw ei esboniad. Yn y gweddill o'r bennod erys gyda'r gwir a ddysgir yn dra amlwg gan gymdeithas y "Psychical Research," i'r amcan o ddangos gallu enaid un dyn mewn un man i ddal rhyw gymundeb âg enaid dyn arall mewn man arall. Os gwir yw hyn am ddyn, pa faint mwy felly am Dduw ? Dyna ystyr ymresymiad Henson; ac fe raid i bob efrydydd ddiolch am dano, pa un bynnag a gytunir ei fod yn fanwl wir ai peidio. Feallai mai y duwinydd fydd galetaf ei feirniad- aeth ar hyn, gan ei fod yn awgrymu amryw gyfnewidiadau yn ein syniadau duwinyddol, mwy neu lai pwysig. Da fuasai gennyf allu dilyn Henson ymhellach. Gofod a bar ymatal. Hoftwn gredu fy mod wedi dweyd digon am y llyfr safonol hwn i'r darllengar ei geisio, ei ddarllen, a'i feistrcii. O wneud hynny nis rhaid ofni am ymosodiadau crach- wyddoniaeth gan nad pwy a ymostyngo i'w defnyddio; ac fe ddeuir i weled yn amlycach eto, pa fwswgl dychymyg bynnag allai fod wedi tyfu ar hyd barwydydd duwinyddiaeth, fod digon o wir yn sicr i bob dyn a fynno weled hynny, fel ag i'w gyfiawnhau i ymddiried yn ei Dduw yn awr a byth. William GLYNNE. By Nile and EUPHRATES: A Record of Discovery and Adventure. By H. Valentine Geere, of the Staff of the Babylonian Expedition of the University of Pennsylvania. With Maps and Illustrations. Edinburgh T. and T. Clark 38, George Street. 1904. 8s. 6d. net. Yn nesaf peth at weled ein hunain, y mae iarllen hanes teithwyr yn rhoddi disgrifiad o'r hyn a welsant ac a glywsant yn eu teithiau yn un o'r moddion cymhwysaf i'n dwyn i gydnabyddiaeth â gwledydd y byd. Ac yn neil'duol pan y mae y teithwyr hynny yn desgrifio lleoedd a phethau y byddom yn teimlo dyddordeb arbennig ynddynt, y mae eu desgrifiadau yn rhwym o roddi y boddhad mwyaf. Y mae Mr. Geere yn ysgrifennydd syml a di- fyrus. Yr oedd yn teithio i'r lleoedd a ddesgrifir ganddo am y waith gyntaf, fel y mae yr hyn a ddywed yn newydd a ffres. Yr oedd amcan ei ymweliad â'r Aifft a glannau y Tigris, tef cloddio i wneuthur darganfydd- iadau yn Oxyrhyncus a Nippur, ar lan yr afon Chebar, lIe y gwelodd Ezeciel ei weledigaetbau, ar ran Prif-athrofa Pennsylvannia, yn rhoddi dydd- ordeb newydd yn ei waith i'r hynafiaethydd a'r efrydydd Beiblaidd. Y mae y photograffydd wedi gwneud ei wasanaeth yn rhagorol. Addurnir y gyfrol gan liaws mawr o ddarluniau, y rhai a roddant y cynorthwy mwyaf i ddeall y gwaith. Y mae hon yn gyfrol radlawn ac o'r dyddordeb mwyaf.