Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eli, Samüel, and SAUL. A Transition Chapter in Israelitish History. By the Rev. Charles A. Salmond, D.D.—EZECIEL His Life and Mission. By W. Harvey-Jellie, M.A., B.D. (Lond.) Dau lyfr bychan chwe' cheiniog yng Nghyfres y Bible-Class Primers a ysgrifennir dan olygyddiaeth Principal Salmond, Aber- deen, ac a gyhoeddir gan Mri. T. a T. Clark, Edinburgh, ydyw y rhai hyn. Eu pris ydyw chwe' cheiniog, ac y maent yn ddarllenadwy ac addysgiadol iawn. The HIBBERT JOURNAL. October, 1904. London: Williams a Norgate. 2s. 6d. Nodwedd fawr y cyhoeddiad uwchraddol hwn ydyw fod y pynciau pwysicaf mewn Crefydd, Athroniaeth, Celf a Gwyddor yn cael ymdrin â hwy gan y gwyr blaenaf yn eu gwahanol ganghennau, a hynny yn yr ysbryd a'r dymher oreu, heb darojdan y gwregys, fel yr ydys yn rhy dueddol 0 lawer i wneud, yn enwedig mewn dadleuon duwinyddol. Un o'r prif yrgrifenwyr iddo ydyw Syr Oliver Lodge, pnf-athraw Prif-ysgol Birmingham. Prin, feallai, y gellir ei ystyr- iedjyn uniongred. Diau, yn wir, yr edrycha meddylwyr rhyHdfrydig iawn ei fod ymhell o fod felly. Eto y mae yn amlwg ei fod yn awyddus i ddeall pynciau duw- inyddol ei hun a dwyn eraill i'w deall. Mewn rhifyn blaenorol gwnaeth sylw nad oedd dynion uwchraddol yn meddwl dim llawer am bechod. Atebodd Esgob Rochester ef trwy ddweyd y gallai ei fod yn dweyd y gwir, ac mai un arwydd o ddiffyg syniadau Fpriodol am bechod oedd y gwamalrwydd a'r gwendid sydd yn nodweddu yr oes hon. Yn y rhifyn hwn cymer Syr Oliver y mater i fyny dra- chefn ac os nad ydyw yn edrych ar bechod yn hollol fel yr edrychir arno gan dduwinyddion, y mae ymhell iawn o'i fychanu fel elfen yn nhrueni y byd. Can- lyniad edrych yn fach ar bechod ydyw syniad yn ysgafn am gyfiawnder a'r iawn ac y mae yr ysgrifennydd yn llafurio yn galed i geisio dangos nad ydyw yn bychanu y pethau hynny ychwaith. Erthygl rymus a didderbyn wyneb ydyw The Degrading of the Priesthood in the Church of England," gan y Parch. W. Manning, M.A. Os cwymp Eglwys Loegr, yn sicr nidoherwydd bod ei haelodau yn teimlo eu hunain at eu rhyddid i ddweyd y gwir yn ddifloesgni y bydd bynny. Erthygl ragorol hefyd ydyw yr eiddo Professor Gardner ar "Mr. Alfred Lorsy's Type of Catholicism." Gyda'r fath gyhoeddiad a hwn ni raid ofni am ryddid barn a llafar ac er y dywedir yma lawer o bethau nas gall dynion uniongred gyd- fyned â hwy, eto gwell'ydyw profi pob peth, pa mor beryglus bynnag i'r newydd- ian ydyw hynny. Bob Lewis (Brawd Rhys Lewis) a'i Gymeriad. Gan y Parch Henry Evans. Hughes and Son, Wrexham. is. Dyma ail gyfrol cyfres Y Porth Prydferth. Amhosibl fyddai rhoddi llyfr mwy deüiudol ac addysgiadol na hwn yn llaw gwr ieuanc. Y mae yn fyrr, yn glir, ac yn taro yr hoel ar ei phen bob ergyd.