Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. AWDL GADEIRIOL ROBERT AB GWILYM DDU. Awdl gan Robert Williams o Eifionydd. Y gwir yn erbyn y byd. Yn Llundain y cyhoedded, ac ar werth gan yr awdwr; gwerth 6c. Testyn i Eisteddfod Dinbych, B.A. 1792, gan Gymdeithas y Gwyneddigion. I'r Awdl hon y barnwyd yr Ariandlws. CYFLAFAN Y BEIRDD. Deffro duedd dew ffrwd awen, o'th fedd, A iaith fwyn ddisgywen; Dyrcha bwnc drwy o'ch o ben Moch alar am wych wiwlen. Gosteg arwest ddyffestin, Galarus loes moes i'm mìn, Y fath groes i bem-oes bŷd Ni bu hyd wyneb eu hîn. Dydd dyddon i lòn hoyw wlad hên Walia Yn welw heb warcheidwad, A'i Beirddion gwiw â briw brâd, Dan oddef dihenyddiad. Llyma ddu odfa adfyd, o wewyr, I wiw awen hyfryd, Beunydd, â gorthrwm benyd, Cwyn y beirdd yw acen byd. Yn llwyr i feirdd ni chawd llech, Na phlaid Cynmreig awen ffloch, Gan elynion trawsion trech, A'u cynfigen drasen droch. Ebrwydd gyflafan ddybryd I Frython feirdd ceirdd cỳd, Gan Iorwerth anferth ynfyd, deyrn llidiawg, Bygylawg, bu gelyd. O welw wêdd i wylo âf, am ddewrion, Gwiw union gu enwaf, Llywelyn y llew olaf O'n cyff hên, iawn y coffhâf Collwyd ef er called oedd, Orthrwm wyn, hir a thrwm waedd Trist fu i Cynmru yn g'oedd, Arwydd bylch herwydd y baedd.