Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WILLIAMS PANTYCELYN A GORONWY OWEN. (AlL YSGRIF.) Pe buasai Williams wedi cyfansoddi ei emynnau mewn ieithwedd glasurol, buasent yn rhy oerion a pheiriannol i ledaenu tân y Diwygiad yng Nghymru. Rhaid i'r bardd arllwys ei feddyliau trwy y teimlad, ac nid trwy y deall, cyn y gall gyffroi teimladau y bobl a deffroi eu dychymygion; ac yn hyn yr oedd Williams yn rhagori ar odid un bardd y gwyddom am dano. Yr oedd yn llawn o'r hyn a alwai Wordsworth yn spontaneous overflow of powerful emotion" a byddai y nwyd farddonol yn disgyn arno weithiau ganol nos yn ei wely, pryd y dywedir y byddai yn galw ar ei wraig, Mali, Mali canwyll, canwyll a thebygol mai fel hyn y cyfansoddodd rai o'i emynnau mwyaf dwyfol a dyrchafedig; ac mae'n ddigon posibl nad oedd ef ei hun yn deall rhai ohonynt, a cheir llawer eto nad ydynt wedi teimlo eu grym nac amgyffred eu heangder. Yr oedd yn feddiannol ar ddychymyg mor gryf fel ag í gymeryd meddiant llwyr o'i holl alluoedd, a darostwng ei ddeall a'i reswm yn gwbl i'w wasanaeth ac mae darnodiad nodedig Pascal o nerth ac awdurdod y dychymyg yn ddigon priodol i Williams. Mae y gallu rhyfedd hwn sydd yn wrthwynebydd cyson i reswm, ac fel yn ymhyfrydu yn ei oruchafiaeth arno, wedi creu ail natur mewn dyn. Mae iddo ei lawenydd a'i dristwch, ei iechyd a'i gystudd, ei gyfoeth a'i dlodi a myn orfodi rheswm i gredu, i amheu, ac i wadu-rhydd atalfa ar weithrediadau y synwyrau, a chynysgaedda hwy eilwaith â rhyw gywrain weithrediad mae iddo ei ynfydrwydd a'i ddoethineb a'r hyn sydd yn rhyfeddach na'r cwbl yw, ei fod yn gallu Ilanw y galluoedd sydd yn ei wasanaeth â rhyw foddhad tuhwnt i ddim y gall rheswm ei gynyrchu." I'r dynion sydd yn mesur ac yn pwyso meddyliau wrth resymeg nis gall y darnodiad uchod ymddangos yn ddim amgen nag ynfydrwydd ond i'r ychydig wyr talentog, ymerawdwyr y byd barddonol," y mae y disgrifiad yn ateb yn gywir i'w bywyd a'u profiad. Yn Williams yr oedd yr ail natur yn gystal a'r gyntaf wedi ei chysegru i wasanaeth ei Arglwydd a'i ddychymyg, y gallu sydd yn creu ail natur," gyda'i ynfydrwydd a'i ddoethineb, ei lawenydd a'i dristwch," wedi eu sancteiddio i wasanaeth crefydd yr Arglwydd Iesu. Ond beth a feddylir o feirdd fel Burns a Byron, Shelley a Keats gwyr oeddynt yn feddiannol i raddau helaeth o'r gallu a ddisgrifiwyd gan Pascal, ac wedi cyfranogi o'r ail natur ? "-mae eu barddoniaeth yn llawn o berlau gwerthfawr; er y buasent yn werthfawrocach yng ngolwg y byd pe buasai eu proffes a'u bywyd yn fwy cyson â'u barddoniaeth. Mae dyn yn ddirgelwch i bawb, ac iddo ei hun ac mae y bardd yn