Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HIRAETH. I. Yn Llan-llwch-haiarn hûna Hi Yn llonydd erw'r llan Lle nad oes swn ond swn y Lli' Yn torri ar y lan. Hêd aml i wylan wèn o'r Aig, A briw o dan ei bron A thyr ei chalon ar y Graig Uwch argel wely hon. A hoff gan y fwyalchen ftraw, A hithau'r fronfraith dlos, Yw disgyn yn y llwyn gerllaw I gathlu 'mrig y nos. A'r Gog ddaw yma'n gynnar iawn, Fel o'r tu hwnt i'r llèn, I sôn am hâf â'i deunod llawn Ar frig y ddraenen wèn. A llu o'i Chyfeillesau, gynt,' Ddônt yma, ar eu tro,- I sôn am dani wrth y gwynt, A'u gruddiau'n gwlychu'r gro. Mor bêr yw'r Adgof iddynt hwy Am Ferch mor bur a'r wawr Am lais fu'n cânu am Farwol Glwy' Fel angel ar y llawr. Adgofiant am ei llygaid llon, A'i gosgedd brydferth hi A'i gwallt modrwyog fel y dòn- Diofal fel y lli'. Ac am y Bore,-clir ei nen— Pan ddaeth âg ysgafn droed I'r Capel at yr Allor Wen Yn un-ar-hugain oed,