Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DANIEL OWEN. ADGOFION A MYFYRION am Dano. GANwYD Daniel Owen yn nhref y Wyddgrug ar yr 20fed o Hydref, 1836. Bu farw ar yr 22ain o Hydref, 1895. Dyna oedd y dechreu a dyna oedd y diwedd. Gellir dweyd yr un peth am y rhan fwyaf o lawer a fu yn y byd erioed, ond yr oedd Daniel Owen yn un o'r rhai y gellir dweyd mwy am dano. Bu efe fyw yn y byd yma am amser go faith, ac y mae hanes yr hyn a wnaeth, a'r hyn a ddywedodd, yn cyniwair drwy ein gwlad eto. Tra y bu yma gyda ni, cyffyrddodd â'r llinellau tyneraf yn ein natur fel nas gwnaeth neb a fu yn ein gwlad o'i flaen, ac oblegyd hynny, y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig yn ein plith. Yng ngwanwyn y flwyddyn hon, angenrhaid oedd i mi fyned i gyfarfod yng Ngasnewydd, lle y cyfarfum â dau oeddent wedi darllen ei holl weithiau, y rhai, pan ddeallasant fy mod innau yn frodor o'r Wyddgrug, ni pheidiasant fy holi o bant i bentan, ac o hyd, am Daniel Owen. Sut un ydoedd, sut un oedd ef o gorff, ac yn enwedig, o feddwl ? A oeddwn yn meddwl fod ei gerflun yn gwneud chwareu teg âg ef ? Sut un ydoedd yn ei gwmni ? A fu iddo frodyr, a chwiorydd, a pherthynasau ? Pan ddeallasant, yn arbennig, fy mod wedi treulio y rhan fwyaf o'r chwarter canrif olaf o'i oes, yn fwy yn ei gwmni ef nag un arall o'm cyfeillion, nid oedd diwedd ar eu cwestiynau, ni flinent ychwaith ar fy atebion, er mor ddiffygiol oeddynt. Cymaint oedd eu dyddordeb yn fy nghyfaill fel yr esgus* odent hyd yn nod fy atebion a'm casgliadau gwaela, gan fy mod i raddau, er yn wan, yn rhoddi iddynt ryw adlewyrchiadau o'r portread a dynasant o Daniel Owen. A ydych chwi yn gwybod am rai o'r cymeriadau a ddisgrifiai-fath rai ydoedd y brawd Robert a'i fam ? a Wil Bryan, a Thomas Bartley, a Barbara, a Seth, ynghyda'i Gapel Mawr Iesu Grist?" a chant a mil o gwestiynau eraill, y rhai nad oedd gennyf i mor hamdden na'r medr i'w hateb. Dangosai eu gofyn dibaid nad oedd y deng mlynedd o ddistawrwydd oedd wedi myn'd heibio ar ol ei farwolaeth wedi lleddfu dim ar eu chwilfrydedd ynghylch fy anwyl gyfaill. Yr oedd y cymeriadau a ddarluniasai wedi ymgnawdoli iddynt hwy, ac yr oedd Robert ei frawd, a'i fam Wil Bryan, a'r lleill yn fwy adnabyddus iddynt na'u cyfeillion agosaf, a dangosai y dagrau a ddisgleiriai yn eu llygaid, yn enwedig wrth son am Seth a'r Capel Mawr, gymaint oedd eu dyddordeb yn y bobl a greasai fy nghyfaill iddynt hwy ac i Gymru oll. Fel y dychwelais dranoeth, ac yr arosais am y noswaith yn un o ardaloedd mwyaf poblog yngN^ogledd Cymru, cyfarfyddais â nifer o weithwyr, y rhai oeddent