Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRO YM MYSG Y BEIRDD. Ponid digrif i Brif-feirdd ? Daeth i'r byd Athro y Beirdd. Dewi Wyn. Rvw noson yn yr Hydref eisteddwn wrth y tân a cheisiwn ddifyrru fy hun drwy ddarllen un o gyfrolau yr Eisteddfod Transactions." Hwyrach mai y gwynt oedd yn suo-ganu oddiallan, hwyrach mai y farddoniaeth oedd yn drymllyd sut bynnag, daeth syrthni arnaf, cysgais, a breuddwydiais. Tybiwn ei bod yn fore hyfryd o Awst, a minnau yn edrych ar y beirdd yn cadw Gorsedd ar gopa glasfryn coediog. Pan oedd rhyw dderwydd-fardd henafol mewn gwisg wen yn tywallt cenllif <ı hyawdledd oddiar y maen-llog, gwelwn wr â gwallt llaes yn dynesu, a chilwg ar ei ael. Dan estyn ei ddeheulaw tuagat y cylch, dywedodd mewn dull ymherodrol, "Taw â'th faldordd, wr llwyd; a chwi feirdd ieuainc dibrofiad, diosgwch y gwisgoedd coegfalch yna rhag colli y tipyn dawn a roddwyd ichwi a myned ohonoch yn lloerigion anobeithiol." Y fath oedd yr awdurdod yn ei lais fel y disgynodd syfrdandod ar bawb, ac wele'r beirdd yn ddiym- aros yn bwrw eu hurdd-wisgoedd yn bentwr anelwig ar y ddaear. Yna llefarodd y gwr dieithr drachefn, Dowch ymaith gyda mi, fechgyn, a mi a ddysgaf ichwi gyfrinion cerdd dafod; felly odid y cyfyd yn eu pryd genhedlaeth o feirdd teilwng o Wlad y Gân." A'r ieuengaf o'r gorseddogion a aethant gydag ef yn orymdaith, fel rhai wedi eu swyngyfareddu; a chyn bo hir gwelwn hwynt yn myned i mewn i adeilad uchel, aml-dyrog. Yno, mewn ystafell eang, hwy a eisteddasant megys dosbarth o blant ar feinciau ger ei fron, ac yntau a ddechreuodd eu hannerch fel hyn Gelwir yr Eisteddfod Genedlaethol weithiau yn Brifysgol y Werin. Ni fu erioed fwy o drais ar iaith a synnwyr. Byddem yn nes i'n Ue pe galwem hi'n Kindergarten y cywion Uenorion." Byth er pan y'm dyrchafwyd i fod yn Brif-feirniad yr Eisteddfod (petasai yn ddyrchafiad hefyd) yr wyf wrthi yn dweyd y drefn wrthych chwi y plantos yng nghylch eich gwallau gramadegol, ond nid wyf damaid haws. Mae'n amlwg nad ydych yn gwrando dim arnaf. Beth sydd i'w wneud ? Gwaith digon diflas yw myned dros yr un wers drachefn a thrachefn, a hynny heb dâl na diolch, os na byddo yn cyrraedd ei amcan. Yr aflwydd yw fod gwyr Uiprynaidd ac anghyfarwydd wedi bod yn esgus o feirniadu yn y blynyddoedd aethant heibio, ac wedi pentyrru clod ar bethau y dylesid eu condemnio yn ddiarbed. Tra pery y ffug-orchestion hynny yn safon barddoniaeth yng Nghymru, ofer disgwyl un math o ddiwygiad ar iaith, chwaeth, gramadeg, nag arddull yng nghynyrchion yr Eisteddfod. O hyn