Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATBLYGIAD YM MYD MATER. Mae byd o wahaniaeth cydrhwng bywyd a mater, ond bodola gradd uchel o gyffelybiaeth rhyngddynt parthed deddfau datblygiadol y naill a'r llall. Nid yw yn angenrheidiol egluro i ddarllenwyr goleuedig y TRAETHODYDD prif bynciau datblygiad, gwyddant yn anad neb, mai uchelgais Darwin a Wallace oedd priodoli cynnydd bywyd daearol i gyfnewidiadau allanol a mewnol yn y creadur ei hun, hynny yw, fod amgylchiadau allanol, megis hinsawdd, cydluniad a chwyldroadau y tir, ymborth, a chyfluoedd eraill, trwy gydweithio âg awyddfryd mewnol y creadur, yn ddigon i roddi cyfrlf am bob treigliad, ac at gynyrchu pob cyfnewidiad. Er nad yw Darwin mwy nag un o'i ragflaenwyr wedi llwyddo i esbonio datblygiad, gwnaeth i raddau mwy na neb o'i flaen gyfeiriad at alluoedd addefedig fel cynyrchion hen weithredyddion yn y datblygiadau. Y mae'r gweithredyddion hyn yn lliosog mewn rhifedi, ond crynhoir hwynt i ddau ddosbarth, sef Detholiad Naturiol (Natural Selection) a Detholiad Rhywiol (Sexual Selection). Yn ein hysgrif ni a geisiwn roddi gerbron y darllennydd yr undeb agos a ffynna cydrhwng deddfau datblygiadol bywyd âg eiddo mater. Cyn y gwneir hyn cymhellir ni i ddodi yma y ffeithiau a ganlyn, a byddant o gynorthwy i egluro y gyfatebiaeth. Seilir y ddamcaniaeth Ddarwinaidd ar y ffeithiau a ganlyn Yn gyntaf, mae tuedd creaduriaid i amrywio yn ddiddiwedd; yn ail, amrywia y creaduriaid yn y fath fodd ag i fod yn fwyaf addas i'w sefyllfa, a'r cyfryw sydd debycaf o oroesi yn yr ymdrech caled a pharhaus am fodolaeth. Yn drydydd, mae tuedd yn rhieni y creaduriaid i gadw a thros- glwyddo eu neillduolion i'w hepil ac yn bedwerydd, mae rhywog- aethau is yn parhaus ymwthio i fodolaeth, fel y mae eu rhagflaenor- iaid yn ymddatblygu. Y pedwar pwnc a nodasom ydyw prif elfennau damcaniaeth glod. fawr Darwin, ac nid yw y cyfrolau cynwysfawr a ysgrifennodd y gwr galluog hwnnw amgen na chasgliad o ffeithiau ac ymresymiadau i egluro a chadarnhau y gosodiad. Yn syml nid yw damcaniaeth datblygiad ond ymdrechfa i gysoni y mynedol gyda'r presennol, a hynny trwy gyfrwngoliaeth sylwad- aeth graff o'r presennol nid yw ond hanesiaeth me;j;is, eto gwahana yr hanesydd a'r datblygydd yn hyn, mae cofnodion henafol ym meddiant yr hanesydd, nid oes gan y damcanydd ond ei ddychymyg i orffwys arno. Dylai yr hanesydd feddiannu y ddawn i dreiddio i