Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SERYDDIAETH JOB. Ymddengys Llyfr Job i mi weithiau fel math o amgueddfa (museum) yn cynnwys amrywiaeth helaeth o wybodaeth ddefn- yddiol a dyddorol. Mae ynddo gyfoeth mawr o sylwadaeth ar natur ynghyd â'i gwrthrychau dirif, ac ar foeseg bywyd, ac ar athroniaeth crefydd, ac ar brif broblemau bodolaeth pob oes. Yr oedd llygad ym mhen yr awdwr, pwy bynnag oedd, a defnyddiai ei lygad i bwrpas da. Llygad crwn oedd, felllygad colomen, yn gweled yn eang ac yn fanwl, ym mhell ac yn agos, ar yr un pryd. Taflai drem i bob cyfeiriad; i'r ddaear isod a'r nefoedd uchod; i'r môr tudraw a'r tir tu yma. Eithr nid sylwi yn unig a wnai, ond meddwl hefyd. Yr oedd yr awdwr yn athronydd dwfn-dreiddiol yn gystal ag yn sylwed- ydd craff. Yn ychwanegol at sylwi a meddwl, meddai ar ddychymyg a chrebwyll, yng nghyd â'r gallu i fynegi mewn arddull hyawdl ac aruchel ffrwythau ei sylwadaeth a'i fyfyrdodau. O ganlyniad, y mae Llyfr Job ym mhlith goreuon lyfrau yr oesau, a'i gyfrif yn unig fel campwaith llenyddol, heb son am dano fel cynnyrch ysbrydoliaeth. Ceir ynddo grynhoad o ragoriaethau pennaf Homer, yr arwr-fardd Plato, yr athronydd a Shakespeare, y chwareu-fardd. Pel bargen ychwanegol, ca y darllennydd yn Llyfr Job, yr hyn y disgwylia yn ofer am dano yng ngweithiau yr athrylithwyr a enwyd, sef cysur cryf yn wyneb cernodiau poenus Rhagluniaeth, nghyd â balm esmwyth i'r fron rwygedig, gan orth- rymderau a thrallodion ei bererindod ar y ddaear hon. 'Does neb yn gallu penderfynnu gyda sicrwydd pwy ysgrifennodd y llyfr godidog hwn. lVlae wedi ei briodoli i amryw yn eu tro, megis Job ei hun, Elihu, Moses, Solomon, ac awdwr Arabaidd. Dygir rhesymau o blaid pob un o rhai'n; eithr 'does dim digon o resymau o blaid yr un ohonynt i brofi yn ddios mai efe, ac nid neb arall, a'i cynyrchodd. Fe erys cwestiwn yr awduriaeth, yn ol pob tebyg, yn fater dadl hyd y diwedd; ac hyd yn oed tae rhywun yn Uwyddo i benderfynnu, unwaith ac am byth, ei awduriaeth, ni effeithiai hynny ar werth y llyfr, er gwell nac er gwaeth. A chan fod ansicrwydd parthed yr awdwr, gallesid yn naturiol ddisgwyl y buasai ansicrwydd yn nglyn âg adeg ei ysgrifeniad. Eithr dylid cofio, serch hynny, nad yw problem yr amser a'r adeg ddim mor anhawdd ei phenderfynnu a'r awduriaeth; oblegyd cynorthwyir yr efrydydd i benderfynnu yr adeg, i fesur mwy neu lai, gan dystiol- aethau mewnol iaith y llyfr, a'i ddull-wedd, yng nghyd â nodwedd y meddwl sydd ynddo.