Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EDEN A'I GALANAS. [üenesis ii. 15-17; iii. 1-6.] Nid yw Natur, meddai athronydd paganaidd, byth yn gwneud dim yn ofer. Mae hyn yn wir hefyd am Dduw natur. Mae amcan i bob gweithred a wnaeth. Gweithredoedd Duw oedd creu'r byd a llunio dyn. Ac y mae Duw yn ei Air yn dweyd wrthym iddo wneud hyn er ei fwyn ei hun, i'w ogoniant ei hun. Amlygu ei ogoniant oedd bwriad y Creawdwr, a'i amlygu i greadur fedrai ei adnabod a'i werthfawrogi. Yr oedd y gogoniant i'w ddatguddio, nid yn unig Vr creadur, ond hefyd ynddo. Yr oedd y creadur i ogoneddu Duw, ac i'w ogoneddu drwy roddi iddo yr ufudd-dod uchaf posibl. Yr ufudd- dod uchaf posibl yw ufudd-dod rhydd, ewyllysgar, gwirfoddol, ufudd· dod yn aeddfed ffrwyth cynheddfau goreu a mwyaf dyrchafedig y creadur. I gyrraedd yr amcan hwn, felly, angenrhaid oedd creu creadur rhydd, creadur nad arferai'r Creawdwr na neb arall unrhyw drais ar ei ewyllys. Yn nechreu Llyfr Genesis arweinir ni i edrych ar Dduw'n gweithio allan ei fwriad. Mae'n rhydd i mi ddywedyd, pe bai hynny o ryw bwys, nad wyf yn glynu yn yr ysgrif hon wrth unrhyw amcan. iaeth mwy na'i gilydd ynghylch y ffordd ymha un y dylid edrych ar hanes y dyn cyntaf a'i gwymp yn Genesis. Nis gwelaf ei fod o bwys mawr, i'm pwrpas i, pa un ai gwaith llaw un ysgrifennydd ai ynte cyfuniad o dair neu bedair o ysgrifau gwahanol yw'r llyfr, nac ychwaith pa un a'i yn nyddiau Moses ai ynte yn nyddiau'r Gaeth- glud, neu wedi hynny, y'i hysgrifennwyd. Nid oes angen ychwaith, mi goeliaf, ceisio penderfynnu pa faint o wir hanes," a pha faint o alegori neu chwedl, sydd ym mhenodau cynta'r llyfr. Yr wyf yn foddlawn cymeryd fy safle ar y gosodiad hwn gan nad pa gymysg- edd o chwedl all fod ym mhenodau cyntaf Genesis, a chan nad pa mor debyg yw'r ystori ynddynt am greadigaeth y byd, ac am y dyn cyntaf, i ystorîau a geir ar argraff-lechau Babilon a lleoedd ereill, y mae Dwyfol Ysbrydoliaeth wedi gofalu nad oes ynddynt ddim i gam- arwain meddwl y darllennydd o berthynas i wirioneddau mawrion creadigaeth a chwymp. Yn y penodau hyn arweinir ni, i ddechreu, at DDYN yn EI GYFLWR Gwreiddiol. Pa fath ydoedd ? Nid dyn anwar ydoedd, dyn a'r bwystfil yn arglwyddiaethu ynddo. Nid oes un sill yn Genesis yn ffafrio'r golygiad mai anwariaeth oedd cyflwr gwreiddioi dyn. Nid athronydd ydoedd chwaith, fel y barnai'r gwr ddywedodd nad oedd Aristotle yn ddim ond rwbel o Adda. Yr oedd yn gwbl lân, yn hollol ddianaf mewn corff, enaid, ac ysbryd. Yr oedd i gyd yn waith Duw, a