Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAED Y TAENELLIAD. Ym mysg yr amrywiol feddyliau a fenthyciwyd oddiwrth addoliad y cysegr dan y gyfraith, i wasanaeth Cristionogaeth, nid oes un yn fwy hynod, nac yn fwy beiddgar, na'r un a awgrymir yn yr ymadrodd, gwaed y taenelliad," pan y mae ei gyfeiriad at waed Crist. Cyn- wysa, mai megys ag yr oedd y gwaed, yn rhai o'r aberthau gynt, ar 01 eu hoffrymu, yn cael ei daenellu ar yr addolydd, felly hefyd y gellir, ac y dylid cyfrif, fod gwaed y gwrthgysgod, yr aberth mawr fu ar y groes," gwaed Crist, yn daenelledig ar yr addolydd,-y sawl a gredo ynddo. Y mae y meddwl yn un cyfoethog, yn awgrymiadol, ac, er yn meddu anhawsterau, y mae yn anogol i ystyriaeth. Ym. geisiwn at wneud agoriad i'w gynnwys, er yn gwybod mai o'r braidd y gallwn obeithio traethu nemawr a fydd yn foddhaol arno. Cyfarfyddir a'r ymadrodd gwaed y taenelliad mewn dau le yn y Testament Newydd, Ue y mae y cyfeiriad yn ddiamheuol ac amlwg at waed Crist. Yn rhannau olaf yr Epistol at yr Hebreaid, lie y dangosir y rhagorfreintiau uwch a gyrhaeddir ac a feddiennir gan gredinwyr dan y Testament Newydd, amgen saint yr Hen Oruch- wyliaeth, dywedir: Chwi a ddaethoch at waed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na'r eiddo Abel" (xii. 24). Yn y Ue hwn, pe nas dywedasid, yn yr ymadrodd blaen- orol, at Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd," byddai ystyr- iaethau eraill yn ddigon i benderfynu mai at waed Crist y cyfeirir yn yr ymadrodd gwaed y taenelliad." Yng nghyfarchiad Epistol Cyntaf Pedr (i. 2) ceir y geiriau canlynol: Etholedigion yn ol rhag- wybodaeth Duw Dad, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Iesu Grist." Trwy awdurdod y ddwy adnod hyn, mae yr ymadrodd gwaed y taenelliad," a'r syniad y mae'n gyn- nwys, wedi ennill a sicrhau Ue ym meddwl ac iaith y grefydd Grist- ionogol. Y mae eglurder y crybwylliadau a enwyd, drachefn, yn gwneud yn haws credu, os nad hefyd yn penderfynu, mai yn eu goleu y mae yn rhaid deall yr ymadroddion canlynol áá Pa faint mwy y bydd i waed Crist buro eich cydwybod chwi oddiwrth weith- redoedd meirwon" (Heb. ix. 14); Yr hwn a'i rhoddes ei hun drosom, i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol (Tit. ii. 14). Y mae yn dra thebygol mai trwy daenelliad gwaed Crist, er nad enwir taenelliad," y mae y puro yn y mannau hyn fel i'w olygu yn cael ei effeithio. Gyda'r tystiolaethau hyn yn ein meddwl, gellir yn awr ofyn, Pa brofiad i'r Cristion a ddangosir yn yr ymadrodd, gwaed y taen- elliad ? Y mae yn rhaid credu fod ysgrifenwyr y cyfryw ymadrodd