Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y WEINYDDIÁETH— A'I GWLADWEINIAETH. Gyda llawenydd mawr dros ben y croesawodd yr holl deyrnas ymddiswyddiad Mr. Balfour a'i Weinyddiaeth bwdr. Nid oedd y llawenydd hwn yn gyfyngedig i Ymneillduwyr-y rhai a ormesid ganddi; nac i Ryddfrydwyr,-y rhai a sarheid ganddi; ond yn ym- arferol gan yr holl bobl-hawliau cyfansoddiadol y rhai nid yn unig a fygythid ond, mor bell ag y medrai, a ddifethid ganddi. Pan etholwyd Senedd 1900, hawlid mai ei Gweinyddiaeth oedd y gryfaf mewn mwyafrif a'r gyfoethocaf mewn adnoddau o unrhyw un a welwyd gan y genhedlaeth honno. Os gwir hynny, gwir hefyd iddi yn fuan fuan wastraffu ei nerth drwy fyw yn afradlon. Afradlonodd bopeth oedd ganddi-cyfoeth y wlad, a'i henw da ymhlith teyrnas- oídd y ddaear; ymddiried yr etholwyr a'u mawr sel drosti; urddas ac awdurdod Ty'r Cyffredin cyfeillgarwch personol a phleidgarwch ei haelodau hi ei hun. Gwasgarwyd yr holl dda hwn â llaw afradlon. Ychwanegwyd yn enfawr at dreuliau'r Wladwriaeth, gan chwyddo baich arianol y wlad o flwyddyn i flwyddyn. Yr oedd cyfanswm treuliau cyhoeddus y Wladwriaeth am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31ain, 1895-y flwyddyn olaf o'r oruchwyliaeth Ryddfrydol ddiweddaf-yn 93,918,OOOp. Dechreuodd y Toriaid ar eu gwastraff gyda eu bod wedi cael awdurdod ar y pwrs, canys erbyn Mawrth 31ain, 1896, yr oedd y treuliau wedi cynnyddu i 97,746,000p. O hynny ymlaen cynyddu wnaeth y treuliau o'r naill flwyddyn i'r llall, nes erbyn hyn maent yn 142,032,000p. y flwyddyn, sef 48,114,000p. y flwyddyn yn fwy nag oeddent o dan y Weinyddiaeth Ryddfrydol. Mae y symiau hyn mor anferth fel mae yn anhawdd i'r meddwl eu hamgyffred. Ond rhoddwn hwynt mewn ffordd symlach :— Am bob lOOp. yn y flwyddyn a werid gan y Weinyddiaeth Ryddfrydol ddi- weddaf fel treuliau cyhoeddus y Wladwriaeth, gwariodd Mr. Balfour a'i wyr 150p. y flwyddyn. Neu a'i osod mewn ffordd arall eto mae y beichiau hyn wedi cael eu hychwanegu Bunt y Pen y flwyddyn ar gyfer pob gwr, a gwraig, a phlentyn yn y Deyrnas Gyfunol. Hynny yw, Ue bo teulu yn cynnwys dyweder gwr, a gwraig, a phump o blant, mae y Weinyddiaeth Doriaidd wedi ychwanegu Saith Punt y flwyddyn at y tollau a'r trethi cyhoeddus. Na thybier ychwaith mai y Rhyfel yn Ne Affrica sydd yn cyfrif am y cynnydd-canys mae y treuliau yn awr yn agos i ddeng miliwn o bunnau'r flwyddyn yn fwy nag oeddent flwyddyn olaf y rhyfel Gwaddolasant Offeiriadaeth Eglwysi Lloegr a Rhufain drwy y Ddeddf Addysg. Gwaddolasant y Bragwyr drwy y Ddeddf Trwy- ddedi. Gwaddolasant Gyfoethogion Iddewig De Affrica' drwy ad-