Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU LLENYDDOL A DIWINYDDOL. Ysgrifau Byrion." Gan Evan Jones. Caernarfon Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig. Pris swllt.-Hyfryd gennym groesawu cyfrol gyntaf o ysgrifau y Parch. Evan Jones, y rhai a ysgrifenwyd ganddo i golofn Gymreig y Cambrian News dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Dywedwn cyfrol gyntaf am y credwn y bydd i dderbyniad y cyhoedd o'r gyfrol hon fod mor galonnog nes gorfodi yr awdwr i fyned ym mlaen i gyhoeddi ychwaneg. Gresyn a fyddai i'r fath ddefn- yddiau fod yn guddiedig, ac i'r fath lenor ymadael o'n plith heb roddi llawer mwy o'i waith llenyddol o fewn cyrraedd y darllennydd Cymreig. Cawsom flâs neill- duol ar yr ysgrifau. Ar ol dechreu darllen nis gallesid gollwng y gyfrol heb e} llwyr orffen, ac yna, fel Oliver Twist, llefain am ragor. Fel mymryn o newidiad ac ysgafnhad" ar ol darllen rhywbeth trymach y bwriadai yr awdwr y "llyfryn bychan hwn ond canfyddwn ynddo werth parhaol, hanesyddol, a llenorol. Ysgrif- enwyd corff yr ysgrifau yn ystod y blynyddoedd 1871 a 187^ maent yn amrywio llawer o ran testynau, gan drafod pynciau y dydd yn grefyddol, cymdeithasol, a gwleidyddol. Ceir felly, mewn gofod byr, drem ar hanes y cyfnod pwysig hwn ­yn arbennig o safbwynt Cymro ac Ymneillduwr. Dyddorol iawn ydyw yr ysgrifau sydd yn ein hadgofio am agwedd Cymru tuagat y Weinyddiaeth Rydd- frydig oedd mewn awdurdod ar y pryd, a'i hymddygiadau aniolchgar hithau at Gymru. Caiff y darllennydd adlewyrchiad, mewn ysgrifau eraill, o fywyd cym- deithasol Cymru yn y dyddiau hynny. Fe ymwneir yn wir â phob pwnc o bwys oedd yn ysgogi meddyliau dynion, ac fe wneir hynny mewn ffordd fyw, dyddorol, goleu. Wrth hyn y golygwn werth llenorol yr ysgrifau Maent yn werthfawr yn yr ystyr hon o ran eu sylwedd yn gystal a'u harddull. Nid ydym heb deimlo mai yr un yw yr awdwr o hyd-yr un o ran ei graffder, yr un o ran ei allu rhyfeddol i ddadansoddi ac i elfennu pynciau a chymeriadau, yr un o ran ei feistr ar watwareg, a'r un o ran ei sense of humour. Dychmygaswn ei glywed yn siarad lliaws o'r ysgrifau hyn ar lwyfan y Neuadd Drefol pan y byddai ei ysbryd ar dân yn dadleu o blaid Rhyddid a Chyfiawnder. Mewn rhai ereill cawn ef mewn modd arall fel pe yn ymddiddan yn dawel wrth y tân gartref. Ond yn yr oll cawn ef yn Gymro twymgalon, clir ei ben, a goleu ei ysbryd yn ceisio arwain ei gydwladwyr i fwynhau y "dyddiau gwell y soniai am danynt. Braint a phleser yw gwrando ar Mr. Jones yn siarad Cymraeg. Medd hefyd y dawn prin ac anaml, ysywaeth, o ysgrifennti yr hen iaith. Gallwn yn ddibetrus argymhell y gyfrol hon fel llawlyfr ar gyfer dosbarthiadau mewn Cymraeg yn yr Ysgolion Canolradd. A SHORT HISTORY of The WESTMINSTER Assembly. By W. Beveridge, M.A. Edinburgh T. & T. Clark. Price, 2S. 6d. nett. — Gellir dweyd yn ddi- betrus fod y gyfrol fechan hon yn un amserol iawn. Mae dau beth yn ei gwneud hi felly. Y cyntaf yw y ffaith ei bod yn trafod hanes Cymanfa Westminster, yr hon gafodd y fath ddylanwad er ffurfio Credo Cristionogol yn yr Ynys hon, ac effeithiau yr hon sydd yn cerdded i lawr i'n dyddiau ni, ac i'w weled yn yr awydd cryf mewn rhai cyfundebau heddyw yn y wlad yma i adolygu eu Cyffes Ffydd, neu o leiaf, i'w byrhau. Y peth arall sydd yn gwneud ymddangosiad hanes Cymanfa Westminster yn dderbyniol yw y digwyddiadau diweddar mewn cylch- oedd Eglwysig yn yr Alban, ac yn arbennig, penderfyniad Tý yr Arglwyddi ar Awst iaf, 1904, yn Achos Apêl yr Eglwys Rydd. Fe gofia y darllennydd fod yr Arglwydd Ganghellydd, er seilio ei ddyfarniad o blaid y "Wee Frees," fel y'i gelwid, ar fater 0 athrawiaeth, gan ymresymu mai hwy yn unig oedd yn ffydd-