Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lawn i'r Gyffes Ffydd, ac mai eiddynt hwy oedd yr holl eiddo a berthynnai i'r Eglwys Rydd. Hwy, mewn gair, oedd y Wir Eglwys Rydd. Oherwydd y ddau reswm a enwyd bydd i'r darllennydd ymofyngar roddi croesaw i gyfrol Mr. Beveridge. Nid derbyn tystiolaethau ail-law a wnaeth yr awdwr. Gwnaeth ei oreu i weithio ar y defnyddiau ei hunan ar ol mwynhau y mawr-drafferth o'u olrhain a'u cbwilio. Dechreuir trwy roddi trem ar Y Paratoad Piwritanaidd." Dilynir hanes Piwritaniaeth yn ol i'r dechreuad yn Wycliffe-dangosir i ni beth ydoedd rhan Tyndale, gwir Ddiwygiwr Prydain Fawr," yn y mudiad, nes y deuir at brotest Hooper-yr hon ydoedd yr un effeithiol gyntaf o safle Piwritan. Yna cawn gyfarfod â'r Brenin Iago I. a'i ddywediad, Dim Esgob, dim Brenin; a'r Brenin Siarl I. a Land, ynghyd â'u gweithrediadau anghyfansoddiadol a'u polisi hunan-ddinystriol, yr hyn a barodd i'r Senedd Hir alw y Gymanfa ynghyd. Yn dilyn ceir Pennod ar Alwad, Cyfansoddiad, a Chymeriad y Gymanfa. Y Gymanfa yn ei gwaith yw y nesaf. Yna ceir pennod ddyddorol ar y Solemn League and Covenant, a thair pennod ar Faterion ynglyn â Llywodraetb Eglwysig. yr oll yn hynod o fyw ac addysgiadol. Yn dilyn ceir pennod ar Directories Erastianism: Psalm-book," tra y cymerir y ddwy bennod ddiweddaf i drafod y Gyffes Ffydd a'r Catechismau. Gwelir fod yr awdwr yn myned dros yr holl faes o Hanesyddiaeth Eglwysig y cyfnod terfysglyd ond pwysig hwn,-cyfnod pwysig neillduol o safbwynt yr Ymneillduwr Cymreig, a chyfnod nad ydym eto fel Cymry wedi gwneud ond ymdrech egwan i'w feistroli a'i feddiannu. Bydd y gyfrol hon yn gynorthwy gwerthfawr i'r darllennydd a ddewiso gael mewn cwmpas bychan Hanes yr Eglwys a Hanes yr Athrawiaeth yn un. Tiie Christian Doctrine OF THE LORD'S Süpper. By the Rev. Robert M. Adamson, M.A. Edinburgh T. & T. Clark. — Mae pwnc y gyfrol hon yn un sydd yn meddu dyddordeb diderfyn i'r meddwl Cristionogol. O'r Sacramentau a'r Ordinhadau a sefydlwyd gan Grist fe berthyn amlygrwydd arbennig i Swper yr Arglwydd. Yr awr ddifrifol, ddwys, fythgofiadwy ar yr hon yr ordeiniwyd ef, Cyfoeth y gwirionedd ysbrydol a grynhoir ynddo, ei effeithiolrwydd fel moddion cymundeb â'r Arglwydd a chyfrwng cymdeithas cydrhwng credinwyr â'u gilydd, ei weinyddiad difwlch ar hyd oesau Crêd trwy yr Eglwys Lân Gatholig, y mynych gyfranogiad ohono hefyd yn y bywyd Cristionogol, ynghyd â'r duwiol- frydedd, yr ysbrydolrwydd, yr athrylith grefyddol a'i cylchynasant ef; wele ychydig o'r ystyriaethau sydd yn ei wneuthur yn amlwg ac yn bwysig ym mywyd yr Eglwys. Mae meddwl yn briodol ac yn addas uwchben y fath ddefod yn ddyledswydd barhaus ar y dysgedig a'r syml. Ac nid yw sefyllfa bresennol astudiaeth ddiwinyddol a myfyrdod crefyddol yn anffafriol i efrydiaeth o'r athrawiaeth am y Sacrament. Canfyddwn amlygiadau o ddyddordeb adnewyddol yn y rhannau aruchelaf o'r Gwirionedd athrawiaethol fel y gosodir ef allan yn y Testament Newydd, yn y Credoau Hanesyddol, ac ym mhrofiad cyffredinol y Saint. Yn ystod yr hanner canrif diweddaf gweithredai amryfal ddylanwadau yn wrthwynebus braidd i ddyddordeb dwfn mewn athrawiaeth fel y cyfryw. Telid y fath sylw i Egwyddor Datblygiad fel y gelwid am adffurfiad o'n golygiadau ysbrydol a naturiol am y creadur." Cychwynwyd llu o gwestiynau newyddion parthed y ffynonellau gan Feirniadaeth Feiblaidd. Tra y boddlonai toraeth y Blaid Efengylaidd gyda phwysleisio yn wresog ac yn benderfynol y ddwy ffaith fawr o Bechod ac Iawn, ac y tynnai cydymdeimlad dyngarol a Chymdeithas- iaeth Cristionogol eu holl ysbrydoliaeth o'r bron oddiwrth gymeriad a gwaith yr Iesu fel Mab y Dyn yn hytrach nag fel y Duw-ddyn. Ond erbyn hyn teimlir nad yw Datblygiad ddim wedi dymchwelyd, eithr yn hytrach wedi bod yn foddion i oleuo yn y diriogaeth grefyddol. Nid ysgwyd eithr cadarnhau y Sylfeini Crist- ionogol a wna Beirniadaeth. Rhaid i grefydd Efengylaidd swnio holl seiniau