Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

melusber y Ddwyfol Gân, ac mae angen ar ddyn a'i wasanaeth am gynysgaeth fwy cyfoethog ac enaid-gynhyrfiol nag a geir mewn moeseg foel. Fe fydd i'r gyfrol hon gyrhaedd yr amcan o roddi amlinelliad cynwysfawr o feddwl yr Eglwys ar y Cacrament o'r dechreuad hyd at y datblygiadau diweddaraf i'r athrawiaeth. Ceir yma gyfeiriad at bob golygiad o bwys. Yna cloir i fyny gyda phennodau arbennig ar Yr Athrawiaeth ad-draethiad dehongliadol ohoni. "Swper yr Arglwydd yn y Ffurf-weddiau." Swper yr Arglwydd mewn Llenyddiaeth Ddefosiynol." Agweddau Ymarferol yr Athrawiaeth." Cyfrol werthfawr a golygus. Pwlpud Y Beirdd. Dan olygiaeth y Parch. T. Gwernogle Evans. Cyfrol I. Morriston Jones a'i Feibion. Pris, 3S. 6c. Medd y gyfrol hon gryn lawer o newydd-deb, a dengys y golygydd ei fod yn ddigon eofn i agoryd llwybrau na bu ereill yn eu tramwy o'i flaen. Mae llawer o newydd-deb yn perthyn i'r gyfrol o ran ei diwyg allanol ar wyneb ei chlawr ceir arwyddlun o'r goleuni dwyfol yn disgyn ar Y Gair agored, ym mhwlpud y Beirdd, o dan ddylanwad yr Ysbryd Glân. Ond oddifewn y gwelir y goleuni mewn gwirionedd arwydd yn unig geir oddiallan. Cyfrol o bregethau brodyr yn perthyn i'r gwahanol enwadau yng Nghymru ydyw, a'r brodyr hynny yn feirdd. Cyfunir yma ddau ddrych- eddwl hapus- sef mai buddiol cyhoeddi cyfrol 0 bregethau anenwadol, gyda lle i ddisgwyl y byddai y cyflwyniad o'r gwirionedd ynddynt yn dwyn gwedd farddonol. Credwn fod yr amcan teilwng hwn wedi ei sylweddoli. Gwir fod y mwyafrif o'r beirdd yn perthyn i un enwad, a hynr.y am y rheswm digonol fod y golygydd yn fwy adnabyddus i bregethwyr ei enwad ei hun Ond ceir cyn- rychiolaetb deg o'" Bedyddwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd, ac un bregeth bob un i gynrychioli y Wesleyaid, yr Eglwyswyr, a'r Undodiaid. Gwelir felly fod y Pwlpud wedi ei adeiladu ar linellau eang a llydain, a mae'r adeiladwaith yn wych a gorffenedig. Ond nid beirniadu y meini yw ein hamcan. Cawsom flas wrth eistedd dan y pwlpud i wrando ar yr Efengyl a gyhoeddid ohono, oblegyd dywenydd gennym ychwanegu fod y beirdd hyn yn broffwydi hefyd, a chenadwri gtnddynt, gyda grym hyawdledd i'w thraddodi. Addurnir y gyfrol â darnau barddonol wedi eu cyfansoddi yn bennaf gan y heirdd-bregethwyr, a cheir darlun hefyd o bob pregethwr o flaen ei bregeth, yr hyn sydd yn ychwanegu llawer at werth y gwaith. Haedda'r gyfrol hon dderbyniad calonnog gan y genedl Gymreig, gan ei bod yn cynnwys ffrwyth meddwl a llafur rhai o'i meibion anwylaf, a r llafur hwnnw yn ymwneud â'r Testyn Goreu ac Uchaf. Derbyniwyd:—CYNFEIRDD LLEYX: 1500-1800: gyda Nodiadau Eglurhaol, gan J. Jones (Myrddin Fardd). Pwllheli Richard Jones. EFRYDIAU, gan y Parch. John Prichard, Birmingham. Dolgellau: E. W, Jones. Life AND MATTER, by Sir Oliver Lodge. London; Williams and Norgate. THEOLOGICAL ENCYCLOPÆDIA, by E. O. Davies, B.Sc. London Hodder and Stoughton. HEBREW IDEALS (Part 2), by Rev. James Strachan, M.A. Edinburgh: T. and T. Clark. EXPOSITORS' Times, December, 1905. UNIVERSITY COLLEGE of North Wales Calendar for Session 1905-6. The CALENDAR OF the THEOLOGICAL COLLEGE. BALA.