Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. RHAI 0 WRONIAID MASNACH RYDD. Cymwynaswyr oesau'r byd, pwy mor deilwng o'u coffhau ? Dynion dreuliasant eu hunain allan i wellhau eraill, i bwy gall yr eraill hynny fod dan gymaint o rwymau ? Mae gwyngalchu beddau âg iddo ystyr ganmoladwy yn bod, a gwyn eu byd y genedl a'r wlad sydd a digon o ymdeimlad o rwymedigaeth yn eu calon i ddathlu dyddiau genedig- aeth yn gystal a dyddiau gweithredoedd gogoneddus eu meibion a'u merched rhagoraf, ac i osod gwerth bythol ar eu gwasanaeth. Nid y mabolgampwr nac arwr y cledd gaiff y mawrygedd uchaf erbyn hyn, ond gwroniaid rhyddid, cyfiawnder, a daioni, y dynion mae eu dylanwad yn cadw i fyny wres y mwynhad pennaf ac uchaf ar filiwnau o aelwydydd-cymwynaswyr eu cyd-ddynion. Nid yw pawb yn unfarn ar bwy sydd yn wìr gymwynaswyr, ac am bwy sydd felly yn unig mewn enw, ac felly yn unig er mwyn enw. Ofer disgwyl i bawb edrych yn yr un goleuni ar greawdwyr chwyldroadau heddychol a bendithiol y byd. Mae cymaint o ail-achosion ac o is ddylanwadau ynglyn â phob cyfnewidiad mawr. Mae pob ysgogiad felly, pa mor gynyrchiol bynnag o ddaioni, yn rhwym o dorri i gyfarfod ffynonellau elw dosbarthiadau neillduol. Felly bu gyda'r gwelliantau y ceid mwyaf i'w ddweyd o'u plaid a'r lleiaf yn eu herbyn, megis rhyddhad y caethion, helaethiadau yr etholfraint, a diddymiad y doll ar ddefnydd bara, y tri gwelliant mawr gymerasant le yn y wlad hon mor agos i'w gilydd, ac a lewyrchant y fath an- rhydedd hyd heddyw ar Seneddwyr y dyddiau hynny, yn gystal ag ar y gwyr ardderchog fuont yn eu hargyhoeddi ac yn eu cyn- orthwyo. Fe geir dosbarthiadau a'u gwg ar bob diwygiad fel y bleiddiaid ar yr wyn. Dynion yw y rhai hyn a'u natur wedi ei gosod i fyny o chwith. Yn ol y myn y rhai hyn symud, yn y gwrthwyneb i lwybrau y wawr ac i gyfeiriadau y gwir oleuni; eu harwyddair ydyw, gwell yw y pethau a fu." Ar brydiau tyn yr olweithiad niweidiol hwn allan mor gryf fel ag i attal camrau oes yn ei blaen, a bygwth dadwneud yr hyn sydd yn ffrwyth ymdrechion oesau; ac ar brydiau swynir gwlad a theyrnas gan ryw hudlath farnol i gau eu llygaid rhag sylwi ar gysgod y graddau yn cael ei droi yn ol fwy na deg o raddau ar ddeial cynnydd. Dyma nodwedd amlwg y blynyddoedd hyn, mor bell ag yr â y gallu llywodraethol. laith amlwg y gallu