Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIWYGIAD DIWINYDDOL. Canrif y chwyldroad yn ddiddadl fydd enw y ganrif ddiweddaf gan hanesydd y dyfodol. Gwelir hyn yn ffaith i ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn. Mae bywyd yn ei holl agweddau wedi cael ei draws- newid gan y grymusderau fu yn ymweithio drwy gymdeithas. Safwn ar derfyn y ganrif gyda theimlad o syndod a diolchgarwch wrth weled bywyd yn esgyn mor gyflym i gyfeiriad gwirionedd a rhyddid. Cyflawnir y broffwydohaeth, Y gwirionedd a'ch rhyddha chwi." Llawenhawn yn y weledigaeth geir heddyw ar diriogaeth eang gwirionedd, ac yn yr ymdeimlad o'r rhyddid feddiennir gennym mewn canlyniad. Cyfyngwn ni ein sylw yn y nodiadau canlynol i edrych ar y symudiad hwn i gyfeiriad gwirionedd a rhyddid ym myd crefydd a diwinyddiaeth. Hyd ddechreu y ganrif ddiweddaf yr oedd diwinyddiaeth yn bur amddifad o adnoddau cynnydd. Yr oedd y meddwl diwinyddol bron wedi nychu odditan iau caethiwed esgobol ac eglwysig. Gwir i'r Diwygiad Protestanaidd daflu ymaith awdurdod y Babaeth fel gallu llywodraethol ym myd crefydd ond, fel pob diwygiad arall, fe ddygodd gydag ef rai o nodweddion y caethiwed. Er i Israel gael ymadael â Pharaoh, parhasant i addoli rhai o dduwiau yr Aifft pan ar eu taith i Ganaan. Felly gyda'r Eglwys Brotestanaidd. Cawsai ryddid oddiwrth y Pab, ond daliodd i blygu glin i rai o dduwiau y Babaeth. Yn lle anffaeledigrwydd y Pab, gosodwyd i fyny anffael- edigrwydd y Beibl; yn lle awdurdod yr Eglwys Babaidd, rhoddwyd credoau y Cynghorau Eglwysig fel deddf ansymudol i benderfynnu uniongrededd crefyddol. Rhwymwyd y meddwl crefyddol i dderbyn pob brawddeg o'r Beibl fel lleferydd uniongyrchol o'r nef, a phob adran o'r Credoau fel goleuni terfynnol ar bwnc athrawiaethol. Dyma sylfaeni cred yr eglwys ar hyd canrifoedd y canoloesoedd, ac mae y deugain namyn un o erthyglau cred Eglwys Loegr a Chredo Westminster yn gorffwys ar yr un rhagdybiau. Mae yr holl gredoau hyu yn ail-adrodd, yn eu ffordd eu hunain, anffaeledigrwydd yr Eglwys Babaidd. Nis gallai ond un o ddau beth ddigwydd. Rhaid ydoedd i'r Eglwys Brotestanaidd farw yn raddol fel yr Eglwys Babaidd o ddiffyg caniatau rhyddid i chwilio am ac i fyned i ganlyn y gwirion- edd neu, ar y llaw arall, rhaid ydoedd i'r anffaeledigrwydd gilio a gadael rhyddid i feddwl yr eglwys dyfu, a phob chwareu teg i'w harweinwyr ail ffurfio ei chredo yng ngoleuni y gweledigaethau diweddaf ar diriogaeth gwirionedd.