Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DARLUN. i. Arluniaf fi ar len fy oes, A chryn fy llaw gan nwyd Amherffaith iawn yw'm darlun bach, A'r Hiwiau'n ddigon llwyd! II. Mae'r llen yn deneu ac yn frau, A'm gwrychell nid yw lan A phrin y gwelaf ambell dro Fflam yr ysbrydol dân. III. Ond yn y man, tuhwnt i'r glyn Fy ngwrychell fydd y Gwir A minnau dynnaf ddarlun tlws Ar len o wyndra pur. IV. Bydd mwy o lasliw'r ochr draw Tawelwch dwfn a phell A rhuddgoch liwiau'r Aberth drud Gwnaf ddarlun filwaith gwell. V. Parha fy narlun; chryn mo'm llaw Hi dyn ei grym o'r Groes 'Edwina lliwiau Cariad byth Ar len anfarwol oes MOELWYN.